1. Am y tro cyntaf mewn 15 mlynedd, mae'r Llywodraeth wedi cynyddu'r lwfans ar gyfer hawlio costau gyrru'r car o 45c i 55c y filltir (am y 10,000 milltir cyntaf). Mae'r gyfradd yn parhau i fod yn 25c am filltiroedd ar ôl y 10,000 milltir cyntaf.
Mae hyn wedi'i ôl-ddyddio i 6 Ebrill 2026, felly newyddion da i:
§ Unigolion hunangyflogedig: cofiwch hawlio cyfradd o 55c yng nghyfrifon 2026-2027 y flwyddyn nesaf
§ Gweithwyr: os yw'ch cyflogwr yn penderfynu peidio â chynyddu eu cyfraddau ad-daliad o 45c i 55c y filltir, gallwch hawlio'r rhyddhad treth ychwanegol yn uniongyrchol oddi wrth y Swyddfa Dreth.
2. Er mwyn helpu teuluoedd, mae'r Canghellor wedi cyhoeddi gostyngiad dros dro mewn TAW, o 20% i 5%, ar nifer o atyniadau dros wyliau'r haf. Er mai'r busnesau fydd yn penderfynu a ydynt yn trosglwyddo'r gostyngiad hwn i gwsmeriaid ai peidio, y gobaith yw y byddwn yn gweld gostyngiadau ym mhrisiau tocynnau mewn amgueddfeydd, parciau antur, sinemâu, ac atyniadau eraill.
3. Oes gennych chi bolisi yswiriant sydd ar fin cael ei adnewyddu'n fuan? Yswiriant cartref neu gar efallai? Mae Huw wedi derbyn dyfynbrisiau yn ddiweddar ar gyfer yswiriant car a chartref. Roedd y dyfynbrisiau i gyd tua £100-£150 yn fwy na'r flwyddyn blaenorol, cynnydd o tua 30%. Gwnaeth un galwad ffôn/ffurflen ar-lein ostwng y cynnydd i tua £30 neu 10% o'r premiwm ym mhob achos. Bydd cwmnïau yswiriant yn manteisio'n llawn ar y rhai sydd ddim yn gwirio eu premiwm yn flynyddol.
Cwestiynau Huw ac Aled
C: Dros y blynyddoedd, gwnaeth fy rhieni wrthod â threfnu atwrneiaeth ('Power of Attorney') ac yn anffodus mae'r ddau ohonynt bellach wedi dechrau dioddef o dementia ac mae angen iddyn nhw symud i gartref gofal yn barhaol. Mae ganddyn nhw asedau sylweddol, ond dydw i ddim yn gallu cael mynediad at eu cynilion i dalu am y gofal na gwerthu eu tŷ i godi'r arian chwaith. Beth alla i ei wneud i ddatrys pethau?
A: Yn anffodus, rydych chi nawr yn wynebu cyfres o broblemau sy'n llawer rhy gyffredin, lle cafodd cynllunio synhwyrol ei wrthod. Pe bai eich rhieni wedi gwneud cais am ddogfennau Atwrneiaeth, byddech chi'n gallu defnyddio eu buddsoddiadau a/neu gwerthu'r cartref i ariannu'r gofal angenrheidiol.
Bydd angen i chi gyflwyno cais i'r Llys Gwarchod ('Court of Protection') i gael eich penodi'n ddirprwy ar gyfer eiddo a materion ariannol eich rhieni. Dyw'r broses o wneud cais ddim yn rhad, gyda ffi ymgeisio o £421 a chostau cyfreithiol, ac mae'n aml yn cymryd hyd at flwyddyn i'r cais gael ei gymeradwyo ac i fod yn weithredol.
Dyma'r wers i bawb - cynlluniwch ar gyfer y dyfodol, trefnwch dogfennau Atwrneiaeth pan rydych yn dda ac yn iach ac ysgrifennwch eich ewyllysiau.

