Cymraeg
Cymraeg

Sefydlwyd Cyfrifwyr Huw Aled Accountants ym mis Chwefror 2020 er mwyn rhoi cymorth i unigolion gyda'u cyfrifon a'u trethi. Rydym yn arbenigo mewn cyfrifon a threthi ar gyfer unigolion hunan gyflogedig, landlordiaid, uwch reolwyr ac ‘expats’. Mae'r iaith Gymraeg yn bwysig iawn i Huw ac Aled gan eu bod nhw’n dau yn Gymry Cymraeg iaith gyntaf.

Teyrnged gan un o'n cleientiaid:

"Dylech byth fyw â dyled - Arwyddair

Y ddau o Huw Aled,

Fe drefna'r par ei wared,

Neu'r bois drefnant ei arbed."

Mae Huw Aled Accountants yn darparu gwasanaeth yn y Gymraeg ledled Cymru. 

Sefydlwyd Cyfrifwyr Huw Aled Accountants ym mis Chwefror 2020 er mwyn rhoi cymorth i unigolion gyda'u cyfrifon a'u trethi. Rydym yn arbenigo mewn cyfrifon a threthi ar gyfer unigolion hunan gyflogedig, landlordiaid, uwch reolwyr ac ‘expats’. Mae'r iaith Gymraeg yn bwysig iawn i Huw ac Aled gan eu bod nhw’n dau yn Gymry Cymraeg iaith gyntaf.

Mae Huw ac Aled yn ymfalchïo yn eu gallu i ddarparu gwasanaeth gwbl Gymraeg, gan gynnwys delio gyda'r Swyddfa Dreth Iaith Gymraeg ym Mhorthmadog ar gyfer unrhyw ymholiad treth. Mae pob cwsmer yn gallu derbyn gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg a hynny wedi ei deilwra i’w ofynion personol. Er enghraifft, gallwn baratoi cyfrifon trwy gyfrwng y Gymraeg a'u cyfieithu os oes angen eu rhannu gyda sefydliadau eraill, megis banciau neu gynghorwyr morgais.

Ar 15 Gorffennaf 2021, derbyniodd Huw Aled Accountants gydnabyddiaeth oddi wrth Comisiynydd yr Iaith Gymraeg am eu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg, o dan y cynllun 'Cynnig Cymraeg'.

Mae copi o'n 'Cynnig Cymraeg' wedi cael ei gynnwys ar waelod y dudalen yma.

Yn 1982, pan oedd gyda S4C, Huw oedd yn gyfrifol am gyhoeddi cyfrifon cyntaf y sector gyhoeddus yn yr iaith Gymraeg.

Mae Huw yn darlledu yn fyw ar BBC Radio Cymru ar faterion ariannol gan gynnwys diwrnod y Gyllideb, Brexit yn 2016 a’r Etholiad Cyffredinol yn 2017. Yn ogystal, gwnaeth Huw ddarlledu sawl gwaith yn ystod pandemig Covid-19.

Ers lawnsio cwmni Huw Aled yn 2020, mae Aled wedi cael cyfleoedd darlledu niferus i drafod amrywiaeth eang o faterion, gan gynnwys:

 

22 Mai 2020 – cynlluniau cymorth y Llywodraeth mewn ymateb i bandemig Covid-19 (Prynhawn Da, S4C).

29 Mai 2020 – sgamiau ariannol yn ystod y cyfnod clo (Prynhawn Da, S4C)

14 Awst 2020 – cynllun Llywodraeth Cymru i achub busnesau trwy Cronfa Cadernid Economaidd (Prynhawn Da, S4C)

25 Medi 2020 – cynlluniau cymorth Covid-19 ychwanegol wrth Llywodraeth San Steffan (Post Cyntaf, BBC Radio Cymru)

4 Mawrth 2021 – Cyllideb y Canghellor, Rishi Sunak (Dros Frecwast, BBC Radio Cymru)

6 Ebrill 2021 – dechrau’r flwyddyn dreth newydd (Dros Ginio, BBC Radio Cymru)

6 Mai 2021 – bitcoin ac arian rhithiol (cryptocurrencies) eraill (Dros Ginio, BBC Radio Cymru)

7 Medi 2021 – penderfyniad El Salvador i ddefnyddio bitcoin fel arian cyfreithiol y wlad (Dros Frecwast, BBC Radio Cymru)

28 Hydref 2021 – Cyllideb y Canghellor, Rishi Sunak (Dros Frecwast, BBC Radio Cymru)

28 Hydref 2021 – Cyllideb y Canghellor, Rishi Sunak (Prynhawn Da, S4C)

28 Hydref 2021 – Cyllideb y Canghellor, Rishi Sunak (Newyddion, S4C)

3 Rhagfyr 2021 – datguddiad maint y twyll a’r colledion yng nghynllun benthyciadau ‘Bounce Back’ y Llywodraeth (Dros Ginio, BBC Radio Cymru)

16 Rhagfyr 2021 – cynnydd yng nghyfraddau llog Banc Lloegr o 0.10% i 0.25% (Dros Ginio, BBC Radio Cymru)

24 Mawrth 2022 – Datganiad y Gwanwyn gan Canghellor Sunak (Dros Frecwast, BBC Radio Cymru)

9 Mehefin 2022 – dadansoddiad cyhoeddiad y ‘British Chambers of Commerce’ am tyfiant araf economi Prydain a’r diffyg o fuddsoddiad gan fusnesau (Dros Ginio, BBC Radio Cymru)

6 Gorffennaf 2022 – apwyntiad Nadim Zahawi fel y Canghellor newydd a’r heriau sydd o’i flaen (Dros Ginio, BBC Radio Cymru)

14 Medi 2022 – cynnydd yn lefelau chwyddiant y DU (Post Prynhawn, BBC Radio Cymru)

22 Medi 2022 – cynnydd yng nghyfraddau llog Banc Lloegr o 1.75% i 2.25% (Dros Ginio, BBC Radio Cymru)

23 Medi 2022 – ‘Mini Budget’ y Canghellor newydd, Kwasi Kwarteng (Dros Ginio, BBC Radio Cymru, Stiwdio Sgwâr Canolog Caerdydd)

30 Medi 2022 – cynnydd ym mhrisiau ynni a chynlluniau cymorth y Llywodraeth (Dros Frecwast, BBC Radio Cymru)

12 Hydref 2022 – cyflwr yr economi a pryderon cwmniau pensiwn am gyflwr giltiau y Llywodraeth (Post Prynhawn, BBC Radio Cymru)

12 Hydref 2022 – cyflwr yr economi a pryderon cwmniau pensiwn am gyflwr giltiau y Llywodraeth (Newyddion, S4C)

17 Hydref 2022 – datganiad brys y Canghellor newydd, Jeremy Hunt (ein 4ydd Canghellor yn 2022) (Dros Ginio, BBC Radio Cymru)

3 Tachwedd 2022 - cynnydd yng nghyfraddau llog Banc Lloegr o 2.25% i 3% (Dros Frecwast, BBC Radio Cymru)

15 Tachwedd 2022 – cwmni crypto FTX yn mynd i’r wal a’r goblygiadau i farchnadoedd crypto byd-eang (Dros Frecwast, BBC Radio Cymru)

17 Tachwedd 2022 – Datganiad yr Hydref gan y Canghellor Jeremy Hunt (Dros Ginio, BBC Radio Cymru)

12 Rhagfyr 2022 – dadansoddi GDP y wlad, gyda disgwyl i Brydain fynd i ddirwasgiad yn fuan (Dros Ginio, BBC Radio Cymru)

15 Rhagfyr 2022 - cynnydd yng nghyfraddau llog Banc Lloegr o 3.00% i 3.50% (Dros Frecwast, BBC Radio Cymru)

13 Ionawr 2023 – cynnydd yn lefelau GDP y wlad o 0.1% ym mis Tachwedd 2022 a’r rhagolygon economaidd am y flwyddyn i ddod (Dros Ginio, BBC Radio Cymru)

14 Mawrth 2023 – disgwyliadau am newid yng nghanllawiau rhyddhad treth ar bensiynau cyn Cyllideb y Canghellor y diwrnod canlynol (Post Prynhawn, BBC Radio Cymru)

15 Mawrth 2023 – dadansoddiad a thrafodaeth byw o Gyllideb y Canghellor, 2023 (Dros Ginio, BBC Radio Cymru)

15 Mawrth 2023 – Y Gyllideb 2023 (Newyddion S4C)

9 Mai 2023 – trafodaeth o newidiadau yn y farchnad morgeisi, gan gynnwys opsiwn morgais 100% am y tro cyntaf ers yr argyfwng ariannol yn 2007/2008 (Dros Ginio, BBC Radio Cymru)

12 Mai 2023 – cynnydd yn lefelau GDP y wlad o 0.1% yn y cyfnod Ionawr - Mawrth 2023 a’r rhagolygon economaidd am y flwyddyn i ddod (Post Prynhawn, BBC Radio Cymru)

21 Mehefin 2023 – chwyddiant wedi parhau ar lefel o 8.7% (Dros Frecwast, BBC Radio Cymru)

4 Gorffennaf 2023 – trafodaeth o'r sefyllfa cyfraddau llog, lle mae cyfraddau ar gynilion tipyn yn is na'r cyfraddau llog ar forgeisi (Dros Ginio, BBC Radio Cymru)

21 Medi 2023 - asesiad o'r penderfyniad gan Fanc Lloegr i gadw cyfraddau llog ar 5.25% (Dros Ginio, BBC Radio Cymru)

22 Tachwedd 2023 - aelod o banel yn trafod darllediad byw o Ddatganiad yr Hydref gan y Canghellor, Jeremy Hunt (Dros Ginio, BBC Radio Cymru)

9 Ionawr 2024 - trafodaeth o ddyfodol bancio yng Nghymru (Dros Ginio, BBC Radio Cymru)

6 Mawrth 2024 - aelod o banel yn trafod Cyllideb y Canghellor 2024 gyda Vaughan Roderick (Dros Ginio, BBC Radio Cymru)

8 Ebrill 2024 - cynnydd yn y pensiwn gwladol o 8.5% o fis Ebrill 2024 ymlaen (Dros Ginio, BBC Radio Cymru)

23 Hydref 2024 - edrych ymlaen at newidiadau posib yn Y Gyllideb 2024 (Post Prynhawn, BBC Radio Cymru)

31 Hydref 2024 - Y Gyllideb 2024 (Post Prynhawn, BBC Radio Cymru)

7 Tachwedd 2024 - cyfraddau llog Banc Lloegr yn gostwng o 5% i 4.75%, gyda chwyddiant ar y gorwel (Post Prynhawn, BBC Radio Cymru)

19 Tachwedd 2024 - newid yn 'Agricultural Property Relief' ym maes Treth Etifeddiaeth (Dros Ginio, BBC Radio Cymru)

19 Rhagfyr 2024 - asesu penderfyniad Banc Lloegr i gadw cyfraddau llog ar 4.75% (Post Prynhawn, BBC Radio Cymru)

13 Chwefror 2025 - cynnydd yn GDP Prydain o 0.1% a rhagolygon economaidd y wlad am y flwyddyn (Dros Ginio, BBC Radio Cymru)

25 Chwefror 2025 - defnydd deallusrwydd artiffisial (Artificial Intelligence) o fewn modelau economaidd (Bore Sul, BBC Radio Cymru)

25 Mawrth 2025 - edrych ymlaen at Ddatganiad y Gwanwyn gan y Canghellor (Post Prynhawn, BBC Radio Cymru)

16 Medi 2025 - trafodaeth ar sefyllfa cyffredinol economi'r Deyrnas Unedig (Dros Ginio, BBC Radio Cymru)

27 Tachwedd 2025 - Cyllideb y Canghellor 2025 (Dros Frecwast, BBC Radio Cymru)

Cyfrifwyr Huw Aled - Cynllun datblygu

Gwylio'r Geiniog

Our Services

One of the most significant changes to personal income tax is taking place from April 2026 onwards and action is…
Huw and Aled are specialists in the field of taxation for individuals, in particular the preparation of self assessment tax…
Huw and Aled have significant experience in assisting individuals with understanding, quantifying and reporting their capital gains tax liabilities to…
Expat taxation services are offered to expats who are living abroad on a temporary or permanent basis. Our client base…
Slide 1a
Image is not available

"You have made what is a complicated situation very clear. Thank you very much for your contribution."
"Rydych chi wedi gwneud yr hyn sy'n sefyllfa gymhleth yn glir iawn. Diolch yn fawr iawn am eich cyfraniad."

Dewi Llwyd
Dros Ginio (BBC Radio Cymru)
Slide 1

“Thank you so much for sorting out my capital gains tax. I can finally put closure on the situation, which believe me is a huge weight off my shoulders.”

Slide 1

“Diolch yn fawr am eich cymorth. Rydych wedi bod yn help mawr ac wedi rhoi tawelwch meddwl i fi.”

“Thank you very much for your assistance. You have been a real help and given me peace of mind.”

Slide 1

From a client who's originally from Germany and has started working self-employed in the UK. We've been helping her to understand the UK tax system:

“Thank you very much for your patience, I really appreciate it. If only we could have lectures at university about things like this! That makes perfect sense, thank you very much.”

Slide 1

"Thanks once again for your help this year. I've had a bit of a nightmare with accountants in the last few years. I'm so glad to have found one who is so approachable and knowledgeable and a nice bloke to top it off."

Slide 1

“Diolch yn fawr iawn Aled am eich gwaith trylwyr. Mae'r cwmwl wedi codi!”

"Thank you very much Aled for your thorough work. The clouds have lifted!"

Slide 1

"I just received your newsletter today. As you know, I live out of the country and hence find it slightly difficult to keep up to date with the financial updates within the UK. Your newsletters are heaven-sent, for me. Please keep up the good work."

Slide 1

"Huw Aled Accountants have been a lifeline throughout the COVID-19 pandemic, notifying me of several grants and funds to which I could apply for my business, having been ineligible for government schemes. I am very grateful for their continued support and expertise."

Slide 1

"Your newsletter alerted me to a support fund made available to freelancers as a result of Covid-19. I have successfully received funding, which has made a significant difference to me at a time when work has dried up during lockdown. Thank you very much for all your support!"

Slide 1


"I want to express my sincere gratitude for your efficient service. It has truly been a breath of fresh air."

previous arrow
next arrow