1. Mae cyfradd llog Banc Lloegr yn parhau i fod yn 3.75%. Mae'r Banc wedi nodi bod cyfraddau llog yn debygol o godi eleni os bydd rhyfel Iran yn parhau. Bydd prisiau ynni yn cynyddu ym mis Gorffennaf, gyda'r banc yn disgwyl i'r prisiau ynni yma i aros yn uchel am weddill 2026.
Os ydych chi ar forgais cyfradd amrywiol a/neu dariff ynni amrywiol, efallai yr hoffech chi ystyried trefnu cytundeb pris penodol/sefydlog ('fixed price'), ond sicrhewch eich bod yn defnyddio gwefannau i gymharu prisiau darparwyr eraill.
2. A wnaethoch chi, neu aelod o'ch teulu, dderbyn taliad tanwydd gaeaf y llynedd? Os oedd eich incwm yn uwch na £35,000 yn y flwyddyn hyd at 5 Ebrill 2026, bydd angen i chi ad-dalu'r taliad tanwydd gaeaf yn llawn. Gwneir hyn naill ai drwy eich cod treth, neu drwy eich ffurflen dreth hunanasesiad. Ni fydd y Swyddfa Dreth yn anfon negeseuon testun na negeseuon e-bost yn gofyn am ad-daliadau.
Mae'r Swyddfa Dreth eisoes wedi derbyn dros 25,000 o hysbysiadau am sgamiau yn ymwneud â thaliadau tanwydd gaeaf. Os ydych chi'n derbyn negeseuon testun neu negeseuon e-bost yn gofyn am eich manylion banc, dilëwch y negeseuon ar unwaith!
Cwestiynau Huw ac Aled
C: Mae'r ŵyr yn 10 oed, ac rydym yn y broses o sefydlu ISA Plentyn ('Junior ISA') iddo. Mae hyn er mwyn i ni allu dechrau rhoi arian iddo nawr, yn lle aros nes ei fod yn 18 oed. Fodd bynnag, rydym yn credu y gallai'r arian fynd i'w ben pan fydd yn troi'n 18 oed! A oes gennym hawl i gadw'r cyfrif hwn oddi wrtho, nes i ni deimlo fod ganddo'r disgyblaeth ariannol angenrheidiol?
A: Mae rhoi arian i wyrion drwy ISA Plant yn dod yn fwy poblogaidd, wrth i neiniau a theidiau boeni am bensiynau'n cael eu cynnwys ar gyfer treth etifeddiaeth o 2027 ymlaen. Er gwaethaf eich pryderon, unwaith y bydd eich ŵyr yn cyrraedd 18 oed, bydd ganddo hawl gyfreithiol i'r arian yn ei gyfrif.
Os oes ganddoch chi a'ch ŵyr berthynas cadarn, gobeithio y gallwch gael sgyrsiau synhwyrol gydag ef yn ei arddegau cynnar i'w hysbysu am yr ISA, a'ch gobeithion chi o sut y bydd yn defnyddio'r arian.
Un o'r camau mwyaf drastig y gallech gymryd fyddai agor pensiwn i'ch ŵyr, yn lle ISA Plentyn. Fodd bynnag, ni fydd yn gallu cael mynediad i'r arian hwn nes ei fod yn ei bumdegau (o leiaf). Fel y nododd newyddiadurwr o'r Financial Times yn ddiweddar "Os na allant ei wario'n ddoeth erbyn hynny, mae'n debyg nad oes gobaith iddynt"!
Cofiwch, mae eithriad gwerthfawr rhag Treth Etifeddiaeth ar gyfer rhoddion rheolaidd o'ch incwm, ac yn aml iawn, dyma'r dull mwyaf ymarferol a phoblogaidd o roi rhodd wrth geisio osgoi goblygiadau Treth Etifeddiaeth.

