Blwyddyn Treth Newydd Hapus i chi gyd!
1) Beth sydd wedi newid?
a) Gwneud Treth yn Ddigidol ('Making Tax Digital', neu MTD): os ydych yn weithiwr hunangyflogedig neu'n landlord sydd o fewn canllawiau MTD, efallai bod rhaid i chi gadw cofnodion digidol o fis Ebrill 2026 ymlaen. Bydd angen i chi gyflwyno eich datganiad treth chwarterol cyntaf i'r Swyddfa Dreth erbyn 7 Awst 2026.
b) Cyfraddau treth dividends: mae'r rhain wedi codi 2% o 8.75%/33.75% i 10.75%/35.75% ar gyfer trethdalwyr cyfradd sylfaenol/uwch.
c) Lwfans ISA: mae hyn yn aros ar £20,000 ar draws pob ffynhonnell ISA am flwyddyn arall yn unig (bydd cap o £12,000 ar gyfer ISAs arian parod i'r rhai o dan 65 oed o fis Ebrill 2027 ymlaen).
2) Sgandal
(i) Cytundebau cyllid ceir: mae'r FCA (yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol) wedi cyhoeddi bydd cynllun iawndal i'r miliynau o yrwyr a gafodd ceir trwy gytundebau cyllid ('finance agreements'). Bydd symiau iawndal, ar gyfartaledd, yn £829 yr un. Mae disgwyl i'r manylion cael eu cyhoeddi yn llawn yn ddiweddarach eleni.
(ii) NS&I: i deuluoedd sydd mewn galar, ac sydd wedi cael eu heffeithio gan oedi gwarthus wrth dderbyn arian gan NS&I, neu sydd heb dderbyn symiau llawn, mae'r Llywodraeth wedi cadarnhau bydd cynllun iawndal yn cael ei gyhoeddi ym mis Mai 2026.
Yn y cyfamser, PEIDIWCH â chysylltu gyda chwmniau i drefnu unrhyw iawndal. Mae'r cwmniau yma ('claims management companies') yn hawlio canran uchel o unrhyw iawndal, a does dim angen defnyddio'r fath gwmni. Bydd y cynlluniau iawndal yn hollol agored i'r cyhoedd. Cymerwch ofal hefyd o dwyllwyr yn cysylltu ynglŷn â'r materion yma.
Cwestiynau Huw ac Aled
C: Oes modd i mi ysgaru fy ngŵr ac yna ei ail-briodi er mwyn arbed ar dreth pensiwn? Mae gen i gronfa bensiwn o tua £800,000, tra does dim pensiwn o gwbl gan fy ngŵr. Os byddaf yn tynnu mwy na £50,270 allan o'r pensiwn bob blwyddyn, byddaf yn dechrau talu treth incwm ar 40%. I arbed treth, onid oes modd i ni ysgaru, yna i ni rhannu fy nghronfa bensiwn rhyngom, ac yna ail-briodi?
A: Y term am yr hyn rydych chi'n ei awgrymu yw 'ysgariad ffug'. Fel priodasau ffug, mae ysgariadau ffug er budd ariannol hefyd yn dwyll. Mae gan lysoedd y gallu i wrthdroi ysgariad mewn amgylchiadau o'r fath. Felly, peidiwch â gwneud hyn!
Yn lle hynny, ydych chi wedi ystyried a oes wir angen i chi dynnu'r £50,270 llawn o'ch pensiwn bob blwyddyn? Os oes modd tynnu llai, efallai gallwch osgoi talu treth incwm uwch. Mae opsiynau eraill hefyd yn cynnwys cyfrannu at bensiwn eich gŵr. Cymerwch gyngor wrth ymgynghorydd ariannol cyn gwneud unrhyw benderfyniadau ar frys!

