1. Ydych chi wedi newid swydd yn ystod y flwyddyn neu wedi dechrau derbyn pensiwn am y tro cyntaf? Pan fydd yna newid i'ch incwm trwy PAYE (Talu Wrth Ennill), yn aml iawn mae gwallau yn eich cod treth. Gall y gwallau yma arwain at gor-daliad treth.
Yn 2025, cyhoeddodd y Swyddfa Dreth cafodd dros 730,000 o ad-daliadau treth heb eu hawlio, gyda chyfartaledd yr ad-daliadau yn £855 yr un. I wirio os oes ad-daliad yn ddyledus i chi, defnyddiwch 'ap' y Swyddfa Dreth neu rhowch ganiad iddynt i wirio'ch sefyllfa dreth.
2. Ydych chi'n bwriadu prynu cerbyd trydan? Mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi cynnydd o 40%+ yn y grantiau sydd ar gael ar gyfer cost gosod pwyntiau gwefru ('charging points'). O fis Ebrill 2026, gall pobl hawlio grantiau o hyd at £500 (y swm blaenorol oedd £350).
Ceir y manylion yn llawn ar wefan gov.uk.
3. Ydych chi wedi sylwi ar ffordd newydd o dalu pan yn siopa ar-lein, o'r enw "Talu drwy'r banc" ("Pay by bank")? Yn hytrach na theipio manylion eich cerdyn credyd, mae defnyddio "Talu drwy'r banc" yn mynd â chi i gyfrif ar-lein eich banc i gymeradwyo'r trafodyn.
Gall hyn arbed peth amser i chi, ond, wrth ddefnyddio'r opsiwn yma, rydych yn colli hawliau sylweddol, o gymharu â'ch cerdyn credyd. Ystyriwch osgoi defnyddio "Talu drwy'r banc" pan yn prynu eitemau drud fel gwyliau neu eitemau electroneg.
Cwestiynau Huw ac Aled
C: Ar hyn o bryd, dwi'n cymryd seibiant o fy ngyrfa i ofalu am fy mam. Hoffwn barhau i dalu rhywbeth mewn i'm mhensiwn yn ystod y cyfnod hwn. Oes modd gwneud hyn?
A: Oes. Os nad ydych chi'n ennill unrhyw incwm ar hyn o bryd, gallwch dalu hyd at £2,880 o arian parod i mewn i'ch cronfa bensiwn. Bydd hyn yn cael ei gynyddu i gyfanswm o £3,600 gan y Llywodraeth.
Gall unigolyn arall wneud y cyfraniad yma ar eich rhan, er enghraifft, eich priod neu aelod arall o'r teulu. Caiff cyfraniadau o'r fath eu trin, o ran rhyddhad treth, fel pe baech chi wedi'u talu nhw eich hun. Hynny yw, chi sy'n derbyn y rhyddhad treth, nid yr unigolyn arall.
Gall hyn fod yn ddefnyddiol dros ben pan fydd aelod o'r teulu yn rhoi'r gorau i weithio am gyfnod estynedig o amser, tra'n parhau i allu tyfu eu cronfa pensiwn.
Os byddwch chi'n mynd yn ôl i weithio'n rhan-amser, gall eich partner/priod barhau i gyfrannu at eich pensiwn, ond ni all cyfanswm y cyfraniadau fod yn fwy na'r lwfans pensiwn blynyddol sydd fel arfer yn uchafswm o £60,000 neu 100% o'ch incwm.

