Wrth i ni agosau at ddiwedd y flwyddyn dreth, dyma rhai materion i'w hystyried cyn y 5ed o Ebrill:
1. Taliadau bonws - os ydych yn gobeithio am fonws o'ch cyflogwr, gwiriwch a fydd y bonws yn eich rhoi mewn band treth uwch (gallech chi dalu 40% neu hyd yn oed 60% o dreth incwm ar y bonws!), neu gwiriwch a fyddwch chi'n croesi'r trothwy i orfod ad-dalu budd-dal plant.
Gellir lleihau'r ergyd treth trwy ystyried opsiynau megis cyfraniadau pensiwn personol neu rhoddion elusennol, ond mae angen gweithredu'r rhain cyn 5 Ebrill 2026.
2. Rhoddion - ydych chi'n bwriadu gwneud rhoddion ariannol i aelodau'r teulu? Gallwch roi hyd at £3,000 bob blwyddyn dreth bydd wedi'i heithrio rhag treth etifeddiaeth.
3. ISAs - ydych chi wedi defnyddio eich lwfans ISA di-dreth o £20,000 yn llawn eleni? Cofiwch, o 6 Ebrill 2027 ymlaen bydd y lwfans o £20,000 ar gyfer cyfraniadau arian i ISAs yn lleihau i £12,000 i'r rhai o dan 65 oed. Manteisiwch ar y lwfans o £20,000 cyn y newid yma.
4. Codau treth - mae'r Swyddfa Dreth wedi dechrau cyhoeddi codau treth ar gyfer y flwyddyn dreth sydd i ddod, 2026-2027. Gwiriwch eich cod treth, ac os yw'ch cyflog net yn newid yn sylweddol o un mis i'r llall, gwiriwch gyda'ch cyfrifydd neu gyda'ch cyflogwr.
Cwestiynau Huw ac Aled
C: Rwy'n adeiladwr hunangyflogedig ac rwyf hefyd yn berchen ar dŷ rhent. Dwi ar ddeall bod y Swyddfa Dreth yn newid eu gofynion ar gyfer ffurflenni treth i'r rheini sy'n hunangyflogedig neu'n landlordiaid. Beth sy'n digwydd a beth sydd angen i mi ei wneud?
A: Os oedd cyfanswm eich incwm gros o hunangyflogaeth ac/neu o dai yn fwy na £50,000 yn ffurflen dreth 2024-2025, byddwch yn cael eich effeithio gan 'Gwneud Treth yn Ddigidol ar gyfer Hunanasesiad' o fis Ebrill 2026 ymlaen.
Dyma un o'r newidiadau mwyaf sylweddol a wnaed erioed i dreth incwm a bydd angen i'r trethdalwyr hynny:
• Gofrestru ar gyfer 'Gwneud Treth yn Ddigidol' gan ddefnyddio system ar-lein newydd y Swyddfa Dreth
• Cyflwyno 'diweddariadau' bob chwarter i'r Swyddfa Dreth o'u cyfanswm incwm a'u cyfanswm costau, gan ddefnyddio meddalwedd cymwys
• Cadw cofnodion digidol o bob trafodyn incwm a threuliau ei busnes
Nawr yw'r amser i baratoi'n llawn ar gyfer y newidiadau hyn. Cysylltwch â chyfrifydd i fynd i'r afael â'r holl gofynion newydd ac yn y cyfamser, efallai yr hoffech adolygu manylion llawn y mesurau newydd, a cheir yma:
huwaledaccountants.com/services/making-tax-digital-for-income-tax

