Gall dechrau Blwyddyn Newydd ysgogi pobl i ail-edrych ar sawl agwedd o'i bywyd, gan gynnwys materion ariannol. Dyma rai materion i chi ystyried ar ddechrau 2026:
1) Os nad oes ganddoch chi ewyllys gyfredol, bydd eich ystâd yn cael ei rannu yn unol â chyfreithiau diffyg ewyllys ('intestacy') sydd, yn y bôn, yn dilyn y llinell waed. Gall partneriaid di-briod dderbyn dim tra gall aelodau'r teulu elwa beth bynnag yw'ch dymuniad. Bydd yna lanast i'ch teulu geisio ddatrys.
2) Os oes ganddoch chi asedau sylweddol, mae angen i chi gynllunio, neu o leiaf fod yn ymwybodol, o'ch sefyllfa treth etifeddiaeth. Gall y newidiadau sydd ar droed i ganllawiau treth etifeddiaeth ar bensiynau (o fis Ebrill 2027) ac asedau amaethyddol a busnes (o fis Ebrill 2026) effeithio ar eich cynlluniau. Mae Huw ar gael ar gyfer adolygiadau manwl neu gwiriwch hyn gyda'ch cyfreithiwr/cyfrifydd presennol.
3) Set arall o ddogfennau pwysig i’w trefnu, yn enwedig ar gyfer unigolion sydd wedi cyrraedd, neu sydd dros, oedran pensiwn yw ffurflenni pŵer atwrnai ariannol ac iechyd sy’n caniatáu i’ch teulu/ffrindiau agos i ofalu am eich iechyd a'ch materion ariannol os byddwch yn mynd yn sâl.
4) Ydych chi wedi gwneud rhestr o’ch asedau ariannol ac yw'ch perthnasau/ffrindiau agosaf yn gwybod ble mae’r rhestr yn cael ei gadw? Mewn achos anffodus o farwolaeth sydyn neu analluogrwydd bydd hyn o leiaf yn sicrhau bod rhestr o'ch holl asedau ar gael i'ch ystâd.
5) Beth am eich asedau anariannol, fel eich ffôn clyfar (gan gynnwys lluniau, negeseuon, ayyb)? Os oes gennych ddyfais Apple, bydd Apple yn darparu mynediad i unigolyn penodol os ydych chi'n ychwanegu Cyswllt Etifeddiaeth ('Legacy Contact'). Yna, gall yr unigolyn yma gael mynediad at y data sydd wedi'i storio yn eich cyfrif Apple ar ôl eich marwolaeth.
6) Gwiriwch eich cofnod Yswiriant Gwladol a rhagolwg o'ch Pensiwn Gwladol ar wefan Gov.uk i gywiro unrhyw wallau nawr, cyn i chi ymddeol.
7) Ydych chi'n talu am nifer o wahanol fathau o yswiriant? Efallai bod ganddoch chi bolisi yswiriant cartref da, ond hefyd wedi cymryd opsiwn yswiriant pan wnaethoch chi brynu eitemau fel ffôn neu declyn. Gwiriwch polisi yswiriant eich cartref yn fanwl i sicrhau eich bod yn osgoi yswiriant deuol ('dual-insurance') ac hefyd bod ganddoch chi ddigon o yswiriant ar gyfer eich anghenion.
Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd!

