Cymraeg
Cymraeg

Sefydlwyd Cyfrifwyr Huw Aled Accountants ym mis Chwefror 2020 er mwyn rhoi cymorth i unigolion gyda'u cyfrifon a'u trethi. Rydym yn arbenigo mewn cyfrifon a threthi ar gyfer unigolion hunan gyflogedig, landlordiaid, uwch reolwyr ac ‘expats’. Mae'r iaith Gymraeg yn bwysig iawn i Huw ac Aled gan eu bod nhw’n dau yn Gymry Cymraeg iaith gyntaf.

1.     Cyhoeddodd yr FCA (yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol) yn ddiweddar bydd taliadau iawndal o gamwerthu yng nghytundebau cyllid ar geir yn debygol o fod tua £700 yr un.

Does dim angen i chi ddefnyddio cwmni cyfreithiol i hawlio'r iawndal. Os ydych chi'n credu eich bod â chais dilys am iawndal, cysylltwch â'ch benthyciwr i ddechrau'r achos. Efallai y byddwch yn cael eich cymeradwyo i dderbyn iawndal yn gynt trwy fynd at eich benthyciwr, yn hytrach nag aros am gynllun iawndal yr FCA i lansio y flwyddyn nesaf.

 

2.     Ydych chi'n gyfarwyddwr ar gwmni cyfyngedig sydd wedi'i gofrestru gyda Thŷ'r Cwmnïau? Os felly, efallai eich bod wedi derbyn e-byst yn egluro y bydd angen 'gwirio hunaniaeth' cyfarwyddwyr o 18 Tachwedd 2025 ymlaen.

Mae hwn yn gais dilys gan Dŷ'r Cwmnïau (ond byddwch yn wyliadwrus o e-byst posibl gan dwyllwyr). Mae'r broses gwirio yn syml iawn, yn enwedig os oes gennych drwydded yrru a phasbort. Gwiriwch gyda'ch cyfrifydd os ydych yn ansicr o'r broses.

 

3.     Byddwch yn ofalus o ddylanwadwyr cyfryngau cymdeithasol sy'n portreadu eu hunain fel cynghorwyr ariannol. Mae nifer ohonynt yn annog dilynwyr i fuddsoddi, er nad ydynt yn gymwys i roi cyngor ariannol. Byddwch yn ymwybodol bod rhai dylanwadwyr yn cael eu talu i hyrwyddo buddsoddiadau penodol. Gwnewch yn siŵr eich bod bob amser yn derbyn cyngor proffesiynol cyn gwneud penderfyniadau buddsoddi. Os yw'n swnio'n rhy dda i'w gredu, dyma sgam!

 

Cwestiynau Huw ac Aled

C: Mae fy ngŵr a minnau yn ein 70au ac yn mwynhau ein hymddeoliad. Penderfynon ni beidio â chael unrhyw blant ein hunain, ac oherwydd nad oes gan fy ngŵr na minnau unrhyw deulu agos chwaith, rydym yn treulio ein hamser gyda ffrindiau ac yn gwirfoddoli gydag elusennau. Ble dylen ni ddechrau o ran cynllunio ar gyfer treth etifeddiaeth?

A: Mae nifer cynyddol o bobl heb blant ac felly pan mai'r ateb i'r cwestiwn "pwy fydd yn etifeddu eich cyfoeth" yw "nid y plant", mae'n cymryd fwy o amser i ystyried pwy hoffech chi iddo dderbyn beth o'ch ystâd.

Oes gennych chi unrhyw gefndryd rydych chi wedi colli cysylltiad â nhw, ond yr hoffech iddynt dderbyn swm penodol o arian, neu i dderbyn eitem teuluol hanesyddol? Beth am ffrindiau agos sydd wedi bod yn gefn i chi'ch dau ar hyd y blynyddoedd? Gan eich bod yn gwirfoddoli gydag elusennau, ydych chi wedi ystyried gadael swm i elusen penodol?

Mewn erthygl yn y Financial Times, roedd un unigolyn wedi penderfynu "y byddai'n well ganddo adael canran o'i ystâd i leian sy'n bragu cwrw yn yr Almaen oherwydd ei fod wedi mwynhau ei chynnyrch dros y blynyddoedd."

Nid oes angen i'ch penderfyniad fod mor ddramatig, ond mae gennych chi gymaint o opsiynau ag y dymunwch. Y cam cyntaf, pwysig, yw i drafod hyn gyda'ch gŵr ac i lunio cynllun cyn cyfarfod â chyfreithiwr.

Gwylio'r Geiniog

Our Services

One of the most significant changes to personal income tax is taking place from April 2026 onwards and action is…
Huw and Aled are specialists in the field of taxation for individuals, in particular the preparation of self assessment tax…
Huw and Aled have significant experience in assisting individuals with understanding, quantifying and reporting their capital gains tax liabilities to…
Expat taxation services are offered to expats who are living abroad on a temporary or permanent basis. Our client base…
Slide 1a
Image is not available

"You have made what is a complicated situation very clear. Thank you very much for your contribution."
"Rydych chi wedi gwneud yr hyn sy'n sefyllfa gymhleth yn glir iawn. Diolch yn fawr iawn am eich cyfraniad."

Dewi Llwyd
Dros Ginio (BBC Radio Cymru)
Slide 1

“Thank you so much for sorting out my capital gains tax. I can finally put closure on the situation, which believe me is a huge weight off my shoulders.”

Slide 1

“Diolch yn fawr am eich cymorth. Rydych wedi bod yn help mawr ac wedi rhoi tawelwch meddwl i fi.”

“Thank you very much for your assistance. You have been a real help and given me peace of mind.”

Slide 1

From a client who's originally from Germany and has started working self-employed in the UK. We've been helping her to understand the UK tax system:

“Thank you very much for your patience, I really appreciate it. If only we could have lectures at university about things like this! That makes perfect sense, thank you very much.”

Slide 1

"Thanks once again for your help this year. I've had a bit of a nightmare with accountants in the last few years. I'm so glad to have found one who is so approachable and knowledgeable and a nice bloke to top it off."

Slide 1

“Diolch yn fawr iawn Aled am eich gwaith trylwyr. Mae'r cwmwl wedi codi!”

"Thank you very much Aled for your thorough work. The clouds have lifted!"

Slide 1

"I just received your newsletter today. As you know, I live out of the country and hence find it slightly difficult to keep up to date with the financial updates within the UK. Your newsletters are heaven-sent, for me. Please keep up the good work."

Slide 1

"Huw Aled Accountants have been a lifeline throughout the COVID-19 pandemic, notifying me of several grants and funds to which I could apply for my business, having been ineligible for government schemes. I am very grateful for their continued support and expertise."

Slide 1

"Your newsletter alerted me to a support fund made available to freelancers as a result of Covid-19. I have successfully received funding, which has made a significant difference to me at a time when work has dried up during lockdown. Thank you very much for all your support!"

Slide 1


"I want to express my sincere gratitude for your efficient service. It has truly been a breath of fresh air."

previous arrow
next arrow