Cymraeg
Cymraeg

Sefydlwyd Cyfrifwyr Huw Aled Accountants ym mis Chwefror 2020 er mwyn rhoi cymorth i unigolion gyda'u cyfrifon a'u trethi. Rydym yn arbenigo mewn cyfrifon a threthi ar gyfer unigolion hunan gyflogedig, landlordiaid, uwch reolwyr ac ‘expats’. Mae'r iaith Gymraeg yn bwysig iawn i Huw ac Aled gan eu bod nhw’n dau yn Gymry Cymraeg iaith gyntaf.

Gyda'r Llywodraeth yn parhau i fod o dan bwysau ariannol, mae nifer yn darogan bydd angen i Rachel Reeves godi trethi yn y Gyllideb nesaf, tua diwedd mis Hydref. Er nad oes unrhyw newidiadau wedi'u cadarnhau, mae'r newidiadau posib yn cynnwys:

1.     ISAs: gostyngiad yn y lwfans ISA blynyddol ar gyfer cyfrifon banc (y lwfans blynyddol presennol yw £20,000).

 

2.     Treth ar eiddo: cynyddu cyfraddau treth ar eiddo, yn benodol o werthiant tai.

 

3.     Cyfraniadau pensiwn: cyfyngiadau posibl ar ryddhad treth cyfradd uwch ar gyfraniadau pensiwn. Mae yna sïon hefyd am newidiadau posib i gynlluniau aberthu cyflog ('salary sacrifice') sy'n cael eu defnyddio i arbed treth, megis cynlluniau pensiwn y gweithle a cheir trydan trwy gwmni.

 

4.     Tynnu arian o bensiwn: mae'r wasg ariannol wedi bod yn adrodd ers tro am y posiblrwydd o leihau'r uchafswm o faint o arian di-dreth y gellir ei gymryd o'ch pensiwn.

 

5.     Treth etifeddiaeth: newidiadau i ganllawiau y 'rheol 7 mlynedd' ar gyfer rhoi asedau ac uchafswm posib ar werth asedau gall unigolyn ei roi yn ystod eu hoes. Yn ddiweddar, cyn i unrhyw newidiadau posibl gael eu cyhoeddi, mae'r Financial Times wedi adrodd bod mwy o unigolion yn trosglwyddo a rhoi asedau i "gychwyn y cloc 7 mlynedd", gan boeni y gallai newidiadau yn y dyfodol newid y rheolau er gwaeth.

 

Er nad oes unrhyw un o'r newidiadau hyn wedi'u cyhoeddi yn swyddogol, y cyngor cyffredinol yw os ydych chi'n bwriadu gwneud unrhyw benderfyniadau ariannol mawr, efallai yr hoffech chi ystyried eu gwneud o dan y rheolau a'r cyfraddau treth presennol.

Cysylltwch â ni os hoffech chi drafod unrhyw fater. Mae Aled wedi gweld cynnydd diweddar mewn ymholiadau treth ar eiddo o werthiant tai, tra bod Huw wedi sylwi ar gynnydd amlwg mewn ymholiadau treth etifeddiaeth.

 

Cwestiynau Huw ac Aled

C: Dwi'n bensiynwr a dwi'n deall bydd taliadau tanwydd gaeaf yn cael eu cymeradwyo i bob pensiynwr y gaeaf hwn. Dwi hefyd wedi clywed, os ydych chi'n ennill mwy na £35,000, y bydd angen i chi ad-dalu hyn i'r Llywodraeth. Sut fydd hyn i gyd yn gweithio?

A: Mae llawer o ddryswch wedi bod ynghylch sut bydd y broses newydd ar gyfer taliadau tanwydd gaeaf yn gweithio.

Bydd taliadau tanwydd gaeaf bellach yn cael eu prosesu i bob pensiynwr yng Nghymru a Lloegr y gaeaf hwn (mae rheolau gwahanol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon).

Os yw cyfanswm incwm pensiynwr yn uwch na £35,000, bydd y Swyddfa Dreth yn adennill y taliad tanwydd gaeaf naill ai trwy'ch côd treth ar gyfer 2026/2027 (os ydych yn derbyn pensiwn gweithle neu breifat sy'n cael ei drethu 'at source'), neu, os ydych yn cwblhau ffurflenni treth hunanasesiad blynyddol, bydd y taliad tanwydd gaeaf yn cael ei ad-dalu i'r Swyddfa Dreth trwy'ch ffurflen dreth, gyda'r swm yn cael ei ychwanegu at eich bil treth terfynol.

Gwylio'r Geiniog

Our Services

One of the most significant changes to personal income tax is taking place from April 2026 onwards and action is…
Huw and Aled are specialists in the field of taxation for individuals, in particular the preparation of self assessment tax…
Huw and Aled have significant experience in assisting individuals with understanding, quantifying and reporting their capital gains tax liabilities to…
Expat taxation services are offered to expats who are living abroad on a temporary or permanent basis. Our client base…
Slide 1a
Image is not available

"You have made what is a complicated situation very clear. Thank you very much for your contribution."
"Rydych chi wedi gwneud yr hyn sy'n sefyllfa gymhleth yn glir iawn. Diolch yn fawr iawn am eich cyfraniad."

Dewi Llwyd
Dros Ginio (BBC Radio Cymru)
Slide 1

“Thank you so much for sorting out my capital gains tax. I can finally put closure on the situation, which believe me is a huge weight off my shoulders.”

Slide 1

“Diolch yn fawr am eich cymorth. Rydych wedi bod yn help mawr ac wedi rhoi tawelwch meddwl i fi.”

“Thank you very much for your assistance. You have been a real help and given me peace of mind.”

Slide 1

From a client who's originally from Germany and has started working self-employed in the UK. We've been helping her to understand the UK tax system:

“Thank you very much for your patience, I really appreciate it. If only we could have lectures at university about things like this! That makes perfect sense, thank you very much.”

Slide 1

"Thanks once again for your help this year. I've had a bit of a nightmare with accountants in the last few years. I'm so glad to have found one who is so approachable and knowledgeable and a nice bloke to top it off."

Slide 1

“Diolch yn fawr iawn Aled am eich gwaith trylwyr. Mae'r cwmwl wedi codi!”

"Thank you very much Aled for your thorough work. The clouds have lifted!"

Slide 1

"I just received your newsletter today. As you know, I live out of the country and hence find it slightly difficult to keep up to date with the financial updates within the UK. Your newsletters are heaven-sent, for me. Please keep up the good work."

Slide 1

"Huw Aled Accountants have been a lifeline throughout the COVID-19 pandemic, notifying me of several grants and funds to which I could apply for my business, having been ineligible for government schemes. I am very grateful for their continued support and expertise."

Slide 1

"Your newsletter alerted me to a support fund made available to freelancers as a result of Covid-19. I have successfully received funding, which has made a significant difference to me at a time when work has dried up during lockdown. Thank you very much for all your support!"

Slide 1


"I want to express my sincere gratitude for your efficient service. It has truly been a breath of fresh air."

previous arrow
next arrow