1. Ydych chi'n rhiant neu'n ofalwr a dderbyniodd budd-dal plant rhwng 1978 a 2010 sydd ddim yn derbyn y Pensiwn Gwladol llawn? Os felly, mae'r Llywodraeth wedi nodi problemau gyda'r cynllun 'Diogelu Cyfrifoldebau Cartref' ('Home Responsibilities Protection scheme') a ddylai fod wedi sicrhau bod rhieni a gofalwyr yn derbyn y Pensiwn Gwladol llawn ar ymddeoliad.
Os nad ydych chi, neu aelod o'r teulu, yn derbyn y Pensiwn Gwladol llawn, ac rydych wedi derbyn budd-dal plant rhwng 1978 a 2010, cysylltwch â 'Cyngor ar Bopeth' ('Citizens Advice') neu 'Age UK' er mwyn gwirio os ydych yn gymwys ar gyfer ôl-daliad pensiwn a Phensiwn Gwladol uwch o hyn ymlaen.
2. Mae cytundeb Brexit newydd y Llywodraeth yn cynnwys y gallu i ni ddefnyddio gatiau electronig mewn meysydd awyr wrth deithio i/o gwledydd yr Undeb Ewropeaidd. Dylai hyn helpu gyda chynlluniau teithio yn y dyfodol, ond ni fydd hyn yn effeithio ar eich gwyliau haf eleni, gan bydd y mesur yma yn dod i rym ym mis Hydref 2025.
Os ydych yn teithio gydag anifeiliaid anwes, mae cyfyngiadau yn parhau am y tro, ond mae rhai pobl wedi dod o hyd i ffyrdd annisgwyl i leihau'r trafferthion, gan gynnwys cofrestru eu hanifail anwes mewn gwlad arall (roedd achos diweddar o unigolyn o Swydd Gaerwrangon yn cofrestru eu Jack Russell yng Ngwlad Belg!).
Cwestiynau Huw ac Aled
C: Rydw i a fy chwaer yn gweithredu fel Atwrnai ('Lasting Powers of Attorney') i'n mam oedrannus a nid oes ganddi'r gallu mwyach i wneud penderfyniadau ariannol. Treuliodd nifer o flynyddoedd hapus o'i hymddeoliad yn byw yn Andalusia yn Sbaen cyn dychwelyd i Gymru ychydig o flynyddoedd yn ôl. Mae hi'n dal yn perchen ar y tŷ yn Andalusia ac efallai bydd angen i ni werthu'r tŷ er mwyn talu ffioedd ei chartref gofal.
Oes modd i fy chwaer a minnau werthu'r tŷ hwn tra'n gweithredu fel Atwrnai?
A: Mae'n rhaid i unrhyw benderfyniadau ry'ch chi'n ei gwneud fel Atwrnai fod er budd yr unigolyn. Os ydych chi a'ch chwaer yn penderfynu byddai'ch mam wedi gwerthu'r tŷ er mwyn talu am ffioedd ei chartref gofal, pe bai ganddi'r gallu i wneud y penderfyniad, mae gennych lawer iawn o waith papur cyfreithiol i'w gwblhau i brofi i'r awdurdodau yn Sbaen eich bod yn gweithredu ar ei rhan.
Dyw ffurflenni Atwrnai ddim wedi cael eu creu i'w defnyddio tramor.
Yn yr enghraifft yma, os nad oes gan eich mam ffurflenni Atwrnai o Sbaen, rydych yn ddibynnol ar gofrestrfa tir ('Land Registry') Sbaen ac ar Notari i dderbyn ffurflenni Atwrnai Prydeinig. Efallai bydd angen nifer o ddogfennau ychwanegol, fel 'affidavit' gan gyfreithiwr ym Mhrydain sy'n cadarnhau dilysrwydd y ffurflenni Atwrnai, a byddai'n rhaid cyfieithu rhain i'r Sbaeneg a'i cyfreithloni gan 'apostille'.
Cysylltwch gyda arbenigwr lleol sydd â phrofiad o ddelio gyda pherchnogion tai tramor a sicrhewch eich bod yn neilltuo amser ac arian ar gyfer y cymhelthdodau anochel fydd yn codi.

