1) Ydych chi'n cwblhau ffurflen dreth bob blwyddyn dim ond i hawlio rhyddhad treth yn ôl ar gyfraniadau pensiwn personol? Os felly, efallai na bydd angen i chi lenwi ffurflen dreth hunanasesiad o nawr ymlaen. Mae'r Swyddfa Dreth wedi lansio gwasanaeth ar-lein newydd i unigolion hawlio treth yn ôl ar gyfraniadau pensiwn personol, gan ddisodli'r angen i gyflwyno ffurflen dreth blynyddol. Mae hyn ar gyfer pobl sy'n ennill incwm trwy gyflogaeth (trwy PAYE) yn unig.
2) Ydych chi'n ennill incwm o waith llawrydd tu allan i'ch prif swydd? Ar hyn o bryd, os ydych yn ennill llai na £1,000 y flwyddyn o'r gwaith yma, does dim angen datgan yr incwm i'r Swyddfa Dreth mewn ffurflen dreth hunanasesiad.
Mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi y byddant yn cynyddu'r trothwy yma o £1,000 i £3,000 yn ddiweddarach eleni.
Fodd bynnag, mae hyn yn barod yn achosi dryswch, oherwydd mae'r cynnydd i £3,000 ond yn berthnasol o ran yr angen i gyflwyno ffurflen dreth lawn. Os ydych chi'n ennill rhwng £1,000 a £3,000 o unrhyw waith llawrydd, bydd dal angen i chi ddatgan yr incwm yma trwy ysgrifennu llythyr at y Swyddfa Dreth (yn hytrach na chwblhau ffurflen dreth lawn). Bydd y Swyddfa Dreth wedyn yn cysylltu gyda chi er mwyn trefnu i chi dalu'r treth incwm sy'n ddyledus.
Cysylltwch os hoffech unrhyw gyngor ynglŷn â'r canllawiau newydd yma.
Cwestiynau Huw ac Aled
C: Dwi'n gweithio i gyflogwr ac fel rhan o'n swydd, dwi'n gyrru'n rheolaidd ar draws y wlad. Mae fy nghyflogwr yn fy ad-dalu am gostau tanwydd ar gyfradd o 20c y milltir. Dwi o'r farn bod hyn yn gyfradd isel. Oes unrhyw beth y gallaf ei wneud?
A: Mae'r Swyddfa Dreth yn caniatáu i gyflogwyr ad-dalu costau tanwydd eu gweithwyr ar gyfradd o hyd at 45c y milltir am y 10,000 milltir gwaith cyntaf, gyda 25c y milltir am unrhyw filltiroedd ychwanegol. Gallwch hawlio ad-daliad treth am y gwahaniaeth rhwng y costau tanwydd a ad-dalwyd gan eich cyflogwr (ar 20c y milltir) a'r hyn sy'n ddyledus yn seiliedig ar gyfraddau'r Swyddfa Dreth (ar 45c/25c y milltir) drwy baratoi ffurflen 'P87'.
Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae'r Swyddfa Dreth wedi gweld cynnydd sylweddol mewn ceisiadau P87 gan weithwyr ac wedi cyflwyno amodau llymach ar gyfer cais llwyddiannus. Ar gyfer pob siwrnai gyda'ch gwaith, bydd angen rhestr fanwl arnoch o'r:
• codau post am y man cychwyn a'r man gorffenedig ar gyfer pob taith
• rheswm dros bob taith
• tystiolaeth o'r ad-daliadau a dderbyniwyd wrth eich cyflogwr (e.e. ffurflenni hawlio treuliau eich cyflogwr)
Yn anffodus, mae gan y Swyddfa Dreth restr hir o geisiadau i'w gwirio ac maent yn araf iawn ar hyn o bryd yn prosesu ad-daliadau treth, gydag oedi o tua 4 mis neu fwy yn eithaf cyffredin. Bydd angen amynedd!

