Cymraeg
Cymraeg

Sefydlwyd Cyfrifwyr Huw Aled Accountants ym mis Chwefror 2020 er mwyn rhoi cymorth i unigolion gyda'u cyfrifon a'u trethi. Rydym yn arbenigo mewn cyfrifon a threthi ar gyfer unigolion hunan gyflogedig, landlordiaid, uwch reolwyr ac ‘expats’. Mae'r iaith Gymraeg yn bwysig iawn i Huw ac Aled gan eu bod nhw’n dau yn Gymry Cymraeg iaith gyntaf.

1)     Ar ddechrau blwyddyn dreth newydd, dyma grynodeb sydyn o'r lwfansau treth i'w cadw mewn cof eleni:

a.     Lwfans personol: £12,570 yw cyfanswm yr incwm y gall unigolyn ei ennill cyn dechrau talu treth incwm.

b.     Lwfans cynilo personol: mae swm yr incwm llog y gall unigolyn ei dderbyn yn ddi-dreth yn flynyddol yn parhau i fod yn £1,000 i drethdalwyr cyfradd sylfaenol a £500 i drethdalwyr cyfradd uwch (gyda chyfraddau llog yn parhau'n uchel, bydd mwy o drethdalwyr angen talu treth ar eu hincwm llog).

c.     Lwfans treth ar eiddo: mae hyn yn parhau i fod yn £3,000. Os ydych yn perchen ar bortffolio o gyfranddaliadau, bydd rhaid i chi fod yn ofalus os ydych am osgoi croesi'r trothwy di-dreth tra'n gwerthu cyfranddaliadau.

d.     Lwfans ISA: er y sibrydion yn y wasg o newidiadau posib i'r lwfans yma, mae hyn yn parhau i fod yn £20,000.

e.     Lwfans pensiwn blynyddol: yr uchafswm y gallwch gyfrannu i'ch pensiwn mewn blwyddyn treth yw £60,000 (neu cyfanswm eich incwm, pa bynnag un sydd isaf). Ond, os ydych wedi dechrau cymryd incwm pensiwn, neu os ydych yn ennill incwm uchel, gall y lwfans yma gael ei gyfyngu i swm sydd cyn lleied â £10,000.

2)     Mae cyfraddau llog y Swyddfa Dreth am dalu biliau treth yn hwyr wedi codi o 7% i 8.5% o 6 Ebrill 2025. Dyw'r Swyddfa Dreth ddim o reidrwydd yn anfon nodyn i'ch hatgoffa i dalu biliau treth, felly rydym yn annog trethdalwyr i gofnodi eu taliadau treth yn eu dyddiaduron er mwyn osgoi cosbau llog uchel.

 

Cwestiynau Huw ac Aled

C: Mae fy modryb oedrannus bellach yn byw mewn cartref gofal. Mae ganddi Atwrneiaeth Ariannol Parhaol ('Lasting Financial Power of Attorney') ac rwy'n un o'r atwrneiod. Sut mae modd i ni ddechrau defnyddio'r Atwrneiaeth?

A: Os oes ganddi allu meddyliol o hyd, dylai llythyr oddi wrth eich modryb at y sefydliadau ariannol gwahanol yn eich awdurdodi i weithredu fel ei hatwrnai fod yn ddigonol.

Os nad oes ganddi allu meddyliol erbyn hyn, y camau cyntaf yw i gysylltu â rheolwr y cartref gofal a chael asesiad gan feddyg i gadarnhau nad oes ganddi allu meddyliol, a gofyn am lythyr i gadarnhau hynny. Gellir wedyn cyflwyno'r llythyr yma i'r sefydliadau ariannol gwahanol.

Unwaith bydd hynny wedi'i gadarnhau, mae modd i chi weithredu fel ei hatwrnai. Mae'r canllawiau ar wefan Gov.uk yn nodi:

"Gwneud penderfyniadau er budd gorau yr unigolyn:

Mae'n rhaid i unrhyw benderfyniadau byddwch yn ei gwneud ar ran rhywun fod yn iawn iddyn nhw ac mae angen i chi ystyried yr hyn y byddent wedi'i benderfynu, pe gallent, yn seiliedig ar eu gwerthoedd a'u dymuniadau."

Bydd bodolaeth y ffurflenni Atwrneiaeth Ariannol yn gwneud eich bywyd llawer yn haws ac yn sicrhau y gallwch ofalu am anghenion ariannol eich modryb oedrannus.

Gwylio'r Geiniog

Our Services

One of the most significant changes to personal income tax is taking place from April 2026 onwards and action is…
Huw and Aled are specialists in the field of taxation for individuals, in particular the preparation of self assessment tax…
Huw and Aled have significant experience in assisting individuals with understanding, quantifying and reporting their capital gains tax liabilities to…
Expat taxation services are offered to expats who are living abroad on a temporary or permanent basis. Our client base…
Slide 1a
Image is not available

"You have made what is a complicated situation very clear. Thank you very much for your contribution."
"Rydych chi wedi gwneud yr hyn sy'n sefyllfa gymhleth yn glir iawn. Diolch yn fawr iawn am eich cyfraniad."

Dewi Llwyd
Dros Ginio (BBC Radio Cymru)
Slide 1

“Thank you so much for sorting out my capital gains tax. I can finally put closure on the situation, which believe me is a huge weight off my shoulders.”

Slide 1

“Diolch yn fawr am eich cymorth. Rydych wedi bod yn help mawr ac wedi rhoi tawelwch meddwl i fi.”

“Thank you very much for your assistance. You have been a real help and given me peace of mind.”

Slide 1

From a client who's originally from Germany and has started working self-employed in the UK. We've been helping her to understand the UK tax system:

“Thank you very much for your patience, I really appreciate it. If only we could have lectures at university about things like this! That makes perfect sense, thank you very much.”

Slide 1

"Thanks once again for your help this year. I've had a bit of a nightmare with accountants in the last few years. I'm so glad to have found one who is so approachable and knowledgeable and a nice bloke to top it off."

Slide 1

“Diolch yn fawr iawn Aled am eich gwaith trylwyr. Mae'r cwmwl wedi codi!”

"Thank you very much Aled for your thorough work. The clouds have lifted!"

Slide 1

"I just received your newsletter today. As you know, I live out of the country and hence find it slightly difficult to keep up to date with the financial updates within the UK. Your newsletters are heaven-sent, for me. Please keep up the good work."

Slide 1

"Huw Aled Accountants have been a lifeline throughout the COVID-19 pandemic, notifying me of several grants and funds to which I could apply for my business, having been ineligible for government schemes. I am very grateful for their continued support and expertise."

Slide 1

"Your newsletter alerted me to a support fund made available to freelancers as a result of Covid-19. I have successfully received funding, which has made a significant difference to me at a time when work has dried up during lockdown. Thank you very much for all your support!"

Slide 1


"I want to express my sincere gratitude for your efficient service. It has truly been a breath of fresh air."

previous arrow
next arrow