1) Datganiad y Gwanwyn - dyma'r prif benawdau o ddatganiad y Canghellor ar 26 Mawrth 2025:
a. Dim cynnydd ychwanegol yng nghyfraddau treth incwm, TAW nac Yswiriant Gwladol (i weithwyr).
b. Rhagolygon o'r twf yn economi'r wlad eleni wedi'i haneru o 2% i 1%.
c. Dim newidiadau i lwfansau Cyfrifon Cynilo Unigol (ISAs), ond gyda nodyn efallai bydd hyn yn newid yng Nghyllideb yr Hydref.
d. Cynnydd mewn cosbau am dalu TAW neu treth incwm yn hwyr - o fis Ebrill 2025, bydd cyfraddau cosb newydd o 3% o'r dreth sy'n ddyledus os yw'r taliad 15 diwrnod yn hwyr, gyda 3% arall os yw'r taliad 30 diwrnod yn hwyr ac os os yw'n fwy na 31 diwrnod yn hwyr bydd y cyfradd yn codi i 10%. Cofiwch am ddyddiadau cau taliadau treth!
2) Gwneud Treth Incwm yn Ddigidol - mae'r Swyddfa Dreth yn cyflwyno canllawiau newydd bydd yn ei gwneud hi'n ofynnol, o Ebrill 2026 ymlaen, i unigolion hunangyflogedig a landlordiaid i gyflwyno diweddariadau o'i hincwm a'i gwariant i'r Swyddfa Dreth bob chwarter.
Bydd hyn yn newid mawr i nifer o drethdalwyr ac rydym wedi asesu'r canllawiau newydd yn llawn. Ceir y wybodaeth ar y newidiadau yma ar ein gwefan sef, https://huwaledaccountants.com/
Cwestiynau Huw ac Aled
C: Beth sy'n digwydd i ystâd unigolyn sy'n marw heb ewyllys? A yw'n wir y gall y Goron hawlio ystâd rhywun os nad oes ganddynt unrhyw berthnasau?
A: Nid oes ewyllys gan dros hanner o bobl Prydain ac os ydych yn marw heb ewyllys, bydd eich ystâd yn cael ei rannu yn unol â chanllawiau 'diffyg ewyllys' neu 'intestacy'. Fel arfer, gall partnerniaid priod/sifil a rhai perthnasau agos etifeddu ystâd unigolyn o dan y canllawiau yma.
Os nad oes unrhyw berthnasau agos ganddynt ar ôl a all etifeddu'r ystâd, mae'r ystâd yn cael ei drosglwyddo i'r Goron. Gelwir hyn yn 'bona vacantia'.
Credir bod tua 6,000 o ystadau heb eu hawlio yng Nghymru a Lloegr ar hyn o bryd.
Lle nad oes perthynas agos amlwg, ambell waith mae cwmniau yn cael eu cyflogi i geisio dod o hyd i berthnasau pell, a gall y perthnasau yma gyflwyno cais i hawlio'r ystâd.
Mae angen cyflwyno unrhyw geisiadau tebyg o fewn 30 mlynedd o ddyddiad marwolaeth yr unigolyn (oni bai eich bod chi'n byw yng Nghernyw).
Oherwydd hen gyfraith o'r Oesoedd Canol, os bydd person yng Nghernyw yn marw heb ewyllys, a heb perthnasau ar ôl, mae'r ystâd yn mynd yn syth i Dywysog Cymru. Mae rheol debyg hefyd ar waith yn ardal Lancaster, lle mae'r ystâd yn mynd yn syth i Ddugiaeth Caerhirfryn ('Duchy of Lancaster'), sy'n eiddo i'r Brenin.
Y ffordd orau i leihau unrhyw gymhlethdodau gyda'ch ystâd yw i drefnu ewyllys ddilys.

