Cymraeg
Cymraeg

Sefydlwyd Cyfrifwyr Huw Aled Accountants ym mis Chwefror 2020 er mwyn rhoi cymorth i unigolion gyda'u cyfrifon a'u trethi. Rydym yn arbenigo mewn cyfrifon a threthi ar gyfer unigolion hunan gyflogedig, landlordiaid, uwch reolwyr ac ‘expats’. Mae'r iaith Gymraeg yn bwysig iawn i Huw ac Aled gan eu bod nhw’n dau yn Gymry Cymraeg iaith gyntaf.

Yn dilyn Cyllideb y Canghellor ar 30 Hydref 2024, cafodd rhestr hir o fesurau eu cyhoeddi i geisio llenwi'r bwlch yng nghyfrifon y wlad. Dyma grynodeb o rai o'r mesurau pennaf:

  • Cyfraddau treth incwm, Yswiriant Gwladol (i weithwyr) a Threth Ar Werth wedi'i rhewi, yn unol ag addewidion y Llywodraeth yn eu maniffesto.

  • Mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i'r clo driphlyg ar y Pensiwn Gwladol, bydd yn codi 4.1% ym mis Ebrill 2025 (tua £470 i bob pensiynwr).

  • Treth tanwydd wedi'i rewi am flwyddyn arall; treth alcohol am godi yn unol â chwyddiant o Chwefror 2025 ymlaen (oni bai am gwrw o'r gasgen bydd yn cael toriad treth o un geiniog y peint); treth newydd ar 'vapes' o Hydref 2026 ymlaen gyda chynnydd pellach yn y dreth ar dybaco.

  • Cyfraddau treth ar eiddo wedi aros yr un peth ar gyfer tai preswyl (ar 18% a 24%), ond y cyfraddau ar gyfer pob ased arall wedi codi o 10% a 20% i 18% a 24%, yn effeithiol yn syth o 30 Hydref 2024 ymlaen.

  • Cyfraddau Yswiriant Gwladol i gyflogwyr am godi o 13.8% i 15% o Ebrill 2025 ymlaen. Mae'r trothwy lle mae cyflogwyr yn dechrau talu Yswiriant Gwladol ar gyflogau gweithwyr hefyd yn gostwng o £9,100 i £5,000 y flwyddyn, gan gynyddu costau i fusnesau.

  • Newidiadau sylweddol i dreth etifeddiaeth, gan gynnwys:

    • Lwfans di-dreth (y 'nil rate band') yn cael ei rewi tan Ebrill 2030. Wrth i brisiau asedau godi dros amser, bydd mwy o ystadau yn cael eu dal gan dreth etifeddiaeth.

    • Ni bydd modd bellach i ddefnyddio pensiynau i osgoi treth etifeddiaeth, oherwydd bydd gwerth unrhyw bensiynau yn cael eu cynnwys yng nghyfrifiadau treth eteifeddiaeth o Ebrill 2027 ymlaen.

    • O Ebrill 2026, bydd rhyddhad treth etifeddiaeth ar gyfer busnesau a ffermydd (a thir ffermio) yn newid, fel mai dim ond y miliwn cyntaf o asedau bydd yn cael eu heithrio o dreth etifeddiaeth, gyda treth o 20% yn ddyledus ar y gweddill. Bydd hyn yn achosi pryder difrifol i ffermwyr.

    • Rhyddhad treth ar gyfer portffolio o gyfranddaliadau AIM hefyd wedi ei haneru.

 

Byddwn yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am newidiadau sylweddol i drethi a chyhoeddiadau ariannol y Llywodraeth!

Gwylio'r Geiniog

Our Services

One of the most significant changes to personal income tax is taking place from April 2026 onwards and action is…
Huw and Aled are specialists in the field of taxation for individuals, in particular the preparation of self assessment tax…
Huw and Aled have significant experience in assisting individuals with understanding, quantifying and reporting their capital gains tax liabilities to…
Expat taxation services are offered to expats who are living abroad on a temporary or permanent basis. Our client base…
Slide 1a
Image is not available

"You have made what is a complicated situation very clear. Thank you very much for your contribution."
"Rydych chi wedi gwneud yr hyn sy'n sefyllfa gymhleth yn glir iawn. Diolch yn fawr iawn am eich cyfraniad."

Dewi Llwyd
Dros Ginio (BBC Radio Cymru)
Slide 1

“Thank you so much for sorting out my capital gains tax. I can finally put closure on the situation, which believe me is a huge weight off my shoulders.”

Slide 1

“Diolch yn fawr am eich cymorth. Rydych wedi bod yn help mawr ac wedi rhoi tawelwch meddwl i fi.”

“Thank you very much for your assistance. You have been a real help and given me peace of mind.”

Slide 1

From a client who's originally from Germany and has started working self-employed in the UK. We've been helping her to understand the UK tax system:

“Thank you very much for your patience, I really appreciate it. If only we could have lectures at university about things like this! That makes perfect sense, thank you very much.”

Slide 1

"Thanks once again for your help this year. I've had a bit of a nightmare with accountants in the last few years. I'm so glad to have found one who is so approachable and knowledgeable and a nice bloke to top it off."

Slide 1

“Diolch yn fawr iawn Aled am eich gwaith trylwyr. Mae'r cwmwl wedi codi!”

"Thank you very much Aled for your thorough work. The clouds have lifted!"

Slide 1

"I just received your newsletter today. As you know, I live out of the country and hence find it slightly difficult to keep up to date with the financial updates within the UK. Your newsletters are heaven-sent, for me. Please keep up the good work."

Slide 1

"Huw Aled Accountants have been a lifeline throughout the COVID-19 pandemic, notifying me of several grants and funds to which I could apply for my business, having been ineligible for government schemes. I am very grateful for their continued support and expertise."

Slide 1

"Your newsletter alerted me to a support fund made available to freelancers as a result of Covid-19. I have successfully received funding, which has made a significant difference to me at a time when work has dried up during lockdown. Thank you very much for all your support!"

Slide 1


"I want to express my sincere gratitude for your efficient service. It has truly been a breath of fresh air."

previous arrow
next arrow