Cymraeg
Cymraeg

Sefydlwyd Cyfrifwyr Huw Aled Accountants ym mis Chwefror 2020 er mwyn rhoi cymorth i unigolion gyda'u cyfrifon a'u trethi. Rydym yn arbenigo mewn cyfrifon a threthi ar gyfer unigolion hunan gyflogedig, landlordiaid, uwch reolwyr ac ‘expats’. Mae'r iaith Gymraeg yn bwysig iawn i Huw ac Aled gan eu bod nhw’n dau yn Gymry Cymraeg iaith gyntaf.

Ar yr adeg aeth y rhifyn yma i'r wasg, doedd Cyllideb cyntaf Rachel Reeves ddim eto wedi cael ei gyhoeddi. Byddwn yn dadansoddi canlyniadau'r Gyllideb yn rhifyn mis nesaf.

 

  1. Mae unigolion sydd ddim angen cyflwyno ffurflenni treth hunanasesiad wedi dechrau derbyn 'asesiadau treth syml' wrth y Swyddfa Dreth ar gyfer 2023-2024. Mae'r asesiadau yma yn cynnwys eich incwm cyflogaeth neu pensiwn, yn ogystal â'ch incwm llog ar gynilion.

    Mae tua 140,000 o bensiynwyr sydd ond yn derbyn Pensiwn Gwladol fel incwm yn mynd i dderbyn yr asesiadau treth yma hefyd, gan bod y Pensiwn Gwladol bellach yn uwch na'r lwfans di-dreth blynyddol o £12,570.

    Gwiriwch y ffigyrau yn yr asesiadau yn ofalus iawn, yn enwedig y symiau llog o'r banc, gan fod gwallau i'w gweld yn aml yn y cyfrifiadau yma.

 

  1. Bu erthygl drist iawn yn y wasg yn ddiweddar, lle cafodd gŵr a gollodd ei wraig ei chael hi'n amhosib i gael gafael ar gyfrinair ffôn symudol ei wraig i gael lluniau ar gyfer ei hangladd, gan gynnwys lluniau o ddiwrnod eu priodas.

    Pan mae rhywun yn marw, mae gwaith gweinyddol sylweddol, yn ariannol ac anariannol. Efallai hoffech gadw rhestr o'ch manylion mewngofnodi a chyfrineiriau ar gyfer ebyst, eich ffôn, ac ati mewn man diogel ar gyfer aelodau'ch teulu.

 

  1. O 7 Hydref 2024 ymlaen, cyhoeddwyd rheolau newydd i amddiffyn cwsmeriaid rhag sgamiau 'Authorised Push Payment' neu 'APP'. Mae'r sgamiau yma yn digwydd pan fydd rhywun yn cael ei dwyllo i anfon arian at dwyllwr sy'n honni ei fod yn berson neu'n gwmni dilys.

    O dan y rheolau newydd, gallai taliad a wnaed trwy fancio ar-lein fel rhan o sgam gael ei ad-dalu. Ar hyn o bryd, yr uchafswm o ad-daliad yw £85,000 ac mae'n rhaid i chi hysbysu'ch banc o fewn 13 mis i'r taliad terfynol gael ei wneud i'r twyllwyr.

 

Cwestiynau Huw ac Aled

C: Rwy'n helpu gyda elusen fach sydd angen mynediad at arian ar gyfer prosiectau. Oes rhaid i mi wneud cais i bob sefydliad unigol neu a oes gwefannau sy'n darparu cyfeirlyfr o sefydliadau?

A: Bydd unrhyw un sy'n ymwneud ag elusennau yn gyfarwydd â phroblemau codi arian a cheisiadau am grantiau. Weithiau, mae cyrff arbennig ar gyfer eich math penodol o sefydliad. Dwy wefan a allai rhoi manylion nifer o ddarparwyr grantiau yw “Sefydliad Cymunedol Cymru” ac “Ariannu Cymru”. Er nad ydynt yn cynnwys manylion pob elusen a sefydliad, gallant ddarparu rhai cysylltiadau defnyddiol. Pob hwyl gyda'r ymdrech codi arian!

Gwylio'r Geiniog

Our Services

One of the most significant changes to personal income tax is taking place from April 2026 onwards and action is…
Huw and Aled are specialists in the field of taxation for individuals, in particular the preparation of self assessment tax…
Huw and Aled have significant experience in assisting individuals with understanding, quantifying and reporting their capital gains tax liabilities to…
Expat taxation services are offered to expats who are living abroad on a temporary or permanent basis. Our client base…
Slide 1a
Image is not available

"You have made what is a complicated situation very clear. Thank you very much for your contribution."
"Rydych chi wedi gwneud yr hyn sy'n sefyllfa gymhleth yn glir iawn. Diolch yn fawr iawn am eich cyfraniad."

Dewi Llwyd
Dros Ginio (BBC Radio Cymru)
Slide 1

“Thank you so much for sorting out my capital gains tax. I can finally put closure on the situation, which believe me is a huge weight off my shoulders.”

Slide 1

“Diolch yn fawr am eich cymorth. Rydych wedi bod yn help mawr ac wedi rhoi tawelwch meddwl i fi.”

“Thank you very much for your assistance. You have been a real help and given me peace of mind.”

Slide 1

From a client who's originally from Germany and has started working self-employed in the UK. We've been helping her to understand the UK tax system:

“Thank you very much for your patience, I really appreciate it. If only we could have lectures at university about things like this! That makes perfect sense, thank you very much.”

Slide 1

"Thanks once again for your help this year. I've had a bit of a nightmare with accountants in the last few years. I'm so glad to have found one who is so approachable and knowledgeable and a nice bloke to top it off."

Slide 1

“Diolch yn fawr iawn Aled am eich gwaith trylwyr. Mae'r cwmwl wedi codi!”

"Thank you very much Aled for your thorough work. The clouds have lifted!"

Slide 1

"I just received your newsletter today. As you know, I live out of the country and hence find it slightly difficult to keep up to date with the financial updates within the UK. Your newsletters are heaven-sent, for me. Please keep up the good work."

Slide 1

"Huw Aled Accountants have been a lifeline throughout the COVID-19 pandemic, notifying me of several grants and funds to which I could apply for my business, having been ineligible for government schemes. I am very grateful for their continued support and expertise."

Slide 1

"Your newsletter alerted me to a support fund made available to freelancers as a result of Covid-19. I have successfully received funding, which has made a significant difference to me at a time when work has dried up during lockdown. Thank you very much for all your support!"

Slide 1


"I want to express my sincere gratitude for your efficient service. It has truly been a breath of fresh air."

previous arrow
next arrow