- Yn ôl cofnodion y Swyddfa Dreth, bu rhaid i'r Llywodraeth ad-dalu £56.9m rhwng Ebrill 2024 a Mehefin 2024 i unigolion wnaeth gor-dalu treth ar ôl iddynt ddechrau derbyn eu pensiwn gweithle neu pensiwn preifat am y tro cyntaf.
Os ydych wedi dechrau derbyn eich pensiwn, efallai eich bod wedi sylwi ar addasiadau treth sylweddol ar eich datganiadau pensiwn misol. Mae modd hawlio unrhyw gor-daliadau treth trwy gysylltu yn uniongyrchol gyda'r Swyddfa Dreth a gofyn iddynt anfon ffurflenni penodol atoch (mae angen ffurflenni gwahanol yn dibynnu ar eich amgylchiadau penodol).
- Ydych chi wedi gwirio cost eich yswiriant car ac ydych chi'n talu'n flynyddol neu'n fisol? Mae ymchwiliad wedi dangos bod rhai yswirwyr ceir yn codi cyfradd llog o hyd at 39% ar gwsmeriaid sy’n talu’n fisol.
Roedd un enghraifft yn yr ymchwiliad yn dangos bod gyrrwr 18 oed wedi talu £504 ychwanegol wrth ddewis talu’n fisol am bolisi (y llog a godwyd oedd 36.32%). Defnyddiwch wefannau i ddod o hyd i'r bargeinion gorau.
- Ar gyfer cyfrifon banc busnes, mae llawer bellach yn defnyddio apiau ffôn, yn hytrach na banciau traddodiadol y Stryd Fawr. Cyn agor cyfrif, gwiriwch fod gan y banc drwydded bancio llawn a sicrhewch bod gan y banc adran cymorth da ar gyfer cwsmeriaid, rhag ofn i rywbeth fynd o'i le neu'ch bod yn colli arian i sgam.
Cwestiynau Huw ac Aled
C: Rwyf am brynu car newydd gyda arian parod, ond ni fydd y garej yn rhoi gostyngiad llawn yn y pris i mi oni bai fy mod yn cymryd eu opsiwn benthyg ('car finance'). Beth ddylwn ei wneud?
A: Mae gwneuthurwyr ceir yn aml yn cynnig gostyngiadau ychwanegol o, dwedwch, £1,500, os byddwch yn cymryd eu opsiwn benthyg. Mae 'na ambell dric ar gael. Yn dibynnu ar natur penodol y cytundeb, fe allech chi: dalu unrhyw flaendal ag arian parod, yna ar ôl darllen y cytundeb benthyg yn ofalus, derbyn y cynnig benthyg. Ar ôl cyfnod o ychydig dros 1 mis dylai fod gennych hawl statudol i wneud taliad llawn. Byddwch yn talu rhywfaint o log o tua £300, ond byddwch dal yn arbed £1,200 arall. Gwiriwch geiriad y cytundeb yn ofalus iawn

