Wedi'r etholiad cyffredinol, mae'n bosib y bydd newidiadau sylweddol yn cael eu cyhoeddi dros yr wythnosau a misoedd nesaf ynghylch nifer o drethi gwahanol. Yn benodol:
- Pensiynau
Mae nifer o feysydd gwahanol o fewn y byd pensiynau y gall y Llywodraeth eu newid:
- Pensiwn Gwladol: mae'r rheini sy'n derbyn Pensiwn Gwladol bellach wedi dechrau talu treth ar yr incwm yma, gan fod rhewi'r lwfans personol di-dreth, ynghyd â chynnydd y 'clo triphlyg' yn y Pensiwn Gwladol wedi arwain at y sefyllfa lle mae'r pensiwn yn uwch na'r lwfans di-dreth.
Mae hyn wedi creu gwaith sylweddol i'r Swyddfa Dreth i gasglu'r treth yma, felly efallai y byddwn yn gweld datrysiad fel lwfans personol newydd, uwch ar gyfer pensiynwyr.
- Rhyddhad treth ar gyfraniadau i bensiwn: ar hyn o bryd, rhoddir rhyddhad treth ar gyfraniadau pensiwn ar eich cyfradd treth uchaf (40% neu 45%, os yn berthnasol). Gall hyn newid wedi'r etholiad, felly os ydych yn ystyried gwneud cyfraniad sylweddol i bensiwn, ystyriwch yr effaith o newidiadau posib gan y Llywodraeth.
- Treth ar eiddo
- Mae cyfraddau treth ar eiddo wedi aros yn gyson dros y blynyddoedd diwethaf (ac eithrio'r cyfradd uwch ar werthiant tai preswyl a gafodd ei ostwng o 28% i 24% o fis Ebrill 2024).
- Gan ystyried efallai na fydd treth incwm, TAW na chyfraddau yswiriant gwladol yn cynyddu wedi'r etholiad, mae treth ar eiddo yn faes lle gall Llywodraeth newydd newid cyfraddau.
- Os ydych yn y broses o werthu ased, efallai yr hoffech geisio o leiaf cyfnewid contractau gwerthu cyn unrhyw gyhoeddiad gan y Llywodraeth, er mwyn osgoi cynnydd posibl yn eich bil treth.
- Treth etifeddiaeth
- Ychydig iawn o sylw cafodd ei roi i dreth etifeddiaeth gan y prif bleidiau yn yr wythnosau cyn yr etholiad cyffredinol.
- Efallai gwelwn newidiadau posib i'r mesurau rhyddhad treth sydd ar gael ar gyfer treth etifeddiaeth, e.e. gostyngiad yn y rhyddhad treth ar gyfer busnesau ac eiddo amaethyddol. Gall hyn effeithio ar gynlluniau teuluoedd ar gyfer treth etifeddiaeth wedi'r etholiad.
Byddwn yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am newidiadau sylweddol i drethi a chyhoeddiadau ariannol y Llywodraeth!

