- Ar ddechrau'r flwyddyn dreth newydd, dyma rhai materion i'w hystyried:
-
Lwfans personol: mae'r swm di-dreth gall unigolion ei ennill cyn talu treth incwm yn aros ar £12,570. Gallai'r rheini sy'n derbyn pensiwn gwladol ddechrau talu treth am y tro cyntaf, os yw eu pensiwn gwladol yn uwch na £12,570 y flwyddyn.
-
Lwfans llog ar gynilion: mae'r lwfans di-dreth ar gyfer incwm llog yn parhau i fod yn £1,000 ar gyfer trethdalwyr cyfradd sylfaenol, £500 ar gyfer trethdalwyr cyfradd uwch a £dim ar gyfer trethdalwyr cyfradd ychwanegol. Pan roedd cyfraddau llog yn 0.5%, roedd angen o leiaf £200,000 o gynilion arnoch cyn cyrraedd y trothwy di-dreth o £1,000 (£100,000 o gynilion ar gyfer y trothwy o £500). Gan bod cyfraddau llog bellach dros 5%, dim ond £20,000 neu £10,000 (os ydych yn drethdalwr cyfradd sylfaenol neu uwch) sydd ei angen arnoch i fod mewn perygl o dalu treth ar eich incwm llog.
-
Lwfans difidendau: mae'r lwfans difidend di-dreth yn gostwng o £1,000 i £500. Os ydych yn perchen ar gyfranddaliadau y tu allan i ISA, efallai y bydd angen i chi ddatgan eich difidendau blynyddol i'r Swyddfa Dreth o hyn ymlaen.
-
Trothwy budd-dal plant: mae’r trothwy ar gyfer dechrau ad-dalu budd-dal plant yn cynyddu o £50,000 i £60,000 o fis Ebrill 2024, gyda’r trothwy am ad-daliad llawn o fudd-dal plant yn cynyddu o £60,000 i £80,000.
-
Treth ar eiddo ar werthiant tai: mae'r cyfradd uwch o dreth ar eiddo o werthiant tai wedi gostwng o 28% i 24% ers 6 Ebrill 2024 (mae'r cyfradd is yn aros ar 18%). Os ydych yn ystyried gwerthu tŷ, cysylltwch â ni am amcangyfrif o'r treth ar eiddo byddai'n ddyledus.
Cwestiynau Huw ac Aled: mae fy rhieni oedrannus iawn yn byw mewn tŷ sydd â 4 ystafell wely ac sydd mewn lleoliad da a gwnaethon nhw gael morgais "shared appreciation" yn 1998 gyda Bank of Scotland. Roedd termau'r morgais yn ofnadwy. Nid oedd llog yn daladwy ar y morgais, ond mae’r banc yn cymryd 75% o'r cynnydd yng ngwerth y tŷ ers 1998, sy’n swm enfawr o arian. Dyw'r banc ddim wedi bod o gymorth. A ellir gwneud unrhyw beth?
Mae'r morgeisi hyn, a werthwyd gan Barclays a Bank of Scotland rhwng 1997-1998, wedi rhoi straen enfawr ar lawer o deuluoedd, gan arwain yn aml at golledion o gannoedd o filoedd o bunnoedd. Bu achos cyfreithiol, llwyddiannus yn ddiweddar lle gwnaeth banc gytuno i dalu swm o iawndal, ond heb unrhyw gyfaddefiad swyddogol.
Mae Huw yn gweithredu ar ran un teulu gyda chais cyfreithiol newydd, ar y cyd gyda chwmni o gyfreithwyr o Lundain. Os ydych chi neu unrhyw berthnasau / ffrindiau mewn sefyllfa debyg, cysylltwch â Huw yn gwbl gyfrinachol ar 029 2069 4524.

