Yn dilyn Y Gyllideb gan y Canghellor ar 6 Mawrth 2024 dyma'r prif materion i'w nodi:
- UNIGOLION
- Ar gyfer gweithwyr, bydd cyfraddau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 yn gostwng o 10% i 8% o 6 Ebrill 2024, gyda'r cyfraddau Dosbarth 4 ar gyfer yr hunangyflogedig yn gostwng o 8% i 6%. Bydd unigolion yn arbed tua £450 o dreth y flwyddyn.
- Ar gyfer rhieni sy'n derbyn budd-dal plant:
- Trothwy ar gyfer dechrau ad-daliadau yn codi o £50,000 i £60,000 o Ebrill 2024.
- Trothwy ar gyfer ad-daliadau llawn yn codi o £60,000 i £80,000.
- Treth tanwydd wedi'i rewi eto, gyda'r dreth ar alcohol hefyd wedi'i rewi tan Chwefror 2025. Codiadau pellach yn y dreth ar dybaco a threth newydd i ddod i rym yn 2026 ar 'vapes'.
- Dim cynnydd yn y lwfansau di-dreth ar gyfer treth incwm a threth ar eiddo, er mae'r trothwy lle mae busnesau gorfod cofrestru am TAW (Treth ar Werth) yn codi o £85,000 o incwm y flwyddyn i £90,000.
- TAI
- Diddymu rheolau treth ar dai gosod ('Furnished Holiday Lets') o 6 Ebrill 2025. Bydd y tai yma yn cael eu trin yn union yr un fath â thai sy'n cael ei rhentu i denantiaid. Mae hyn yn debygol o gael effaith sylweddol ar lefelau elw nifer o dai gosod ac ar y rhyddhad treth sydd ar gael pan gaiff y tai yma eu gwerthu.
Cysylltwch â ni am amcangyfrif treth ar eiddo, os ydych yn ystyried gwerthu'r math yma o dai.
- Gostyngiad yn y cyfradd uwch ar dreth ar eiddo o werthu tai o 28% i 24% o 6 Ebrill 2024 (bydd y cyfradd is yn aros ar 18%).
- BUDDSODDIADAU (manylion llawn i'w cadarnhau)
- ISA Prydeinig newydd am gael ei lansio i alluogi buddsoddiad "mewn asedau sy'n canolbwyntio ar y Deyrnas Unedig", gyda lwfans blynyddol o £5,000 ar gael, ar ben y lwfans ISA presennol o £20,000.
- Bond Cynilo Prydeinig am gael ei lansio gan NS&I bydd yn cynnig cyfradd llog cystadleuol am gyfnod o dair blynedd.
Byddwn yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am newidiadau sylweddol i drethi a chyhoeddiadau ariannol y Llywodraeth!

