- Ym mis Ionawr, bu llawer o ddryswch yn y cyfryngau, gyda nifer yn meddwl bod yn rhaid iddynt ddatgan pob gwerthiant ar wefannau megis ebay a Vinted ar ei ffurflen dreth, a thalu treth ar eu henillion. Doedd hyn ddim yn gywir. Dyw'r rheolau treth heb newid o ran beth sydd angen cael ei ddatgan i'r Swyddfa Dreth. Mae gan unigolion 'lwfans masnachu' di-dreth o £1,000 felly, fel man cychwyn, os yw'ch enillion blynyddol o werthu eitemau yn llai na £1,000, mae’r incwm yn ddi-dreth.
Ar ben hynny, os nad ydych yn gwerthu eitemau yn rheolaidd neu os nad ydych yn bwriadu gwneud elw o werthu eitemau, mae'n annhebygol y byddwch yn cael eich nodi fel "masnachwr" gan y Swyddfa Dreth ac felly nid yw'r incwm yn drethadwy.
- Wrth i bobl barhau i gael trafferthion gyda chostau byw, mae llawer wedi penderfynu dechrau derbyn eu pensiwn personol yn gynt. Mae taliadau cyntaf pensiwn personol yn aml yn cael eu trethu ar gyfradd o 40% gan bod y Swyddfa Dreth yn defnyddio côd treth anghywir. Gellir adennill y dreth a ordalwyd trwy lenwi ffurflenni penodol a dylid prosesu’r ad-daliad o fewn 30 diwrnod. Gall yr ad-daliad fod gwerth miloedd o bunnoedd.
Cwestiynau Huw ac Aled: rwyf wedi bod yn defnyddio 'app' ar fy ffôn i brynu a gwerthu nifer fach o gyfranddaliadau. Nid wyf yn credu fy mod wedi gwneud unrhyw elw, ond a oes angen i mi ddatgan unrhyw beth i'r Swyddfa Dreth?
Rydym wedi gweld cynnydd rhyfeddol yn nifer yr unigolion sy’n defnyddio gwefannau ac apiau, fel Trading 212 ac eToro, i brynu a gwerthu cyfranddaliadau ar-lein. Mae'r rhan fwyaf yn defnyddio'r apiau hyn fel hobi, gan arwain at nifer fach o drafodion bob wythnos.
Mae hyn wedi arwain at ddau bwynt sy’n peri pryder i ni:
(i) Buddsoddi: mae nifer o wefannau yn codi ffi am bob trafodyn. Gall unrhyw elw ar fuddsoddiadau bach ddiflannu'n llawn o ganlyniad i'r taliadau hyn. Mae'n bwysig iawn bod pobl yn deall risgiau buddsoddi a'r costau o ddefnyddio'r gwefannau hyn.
(ii) Treth: gall prynu a gwerthu cyfranddaliadau, hyd yn oed ar y raddfa fach hon, greu goblygiadau treth. Yn gyntaf, mae angen datgan unrhyw ddifidendau neu incwm llog ar eich ffurflen dreth, ac yn ail, gall treth ar eiddo ('capital gains tax') fod yn ddyledus ar unrhyw 'elw' o werthu cyfranddaliadau gan bod y lwfans di-dreth ar gyfer treth ar eiddo bellach wedi gostwng i £6,000 ac yn gostwng eto i £3,000 o 6 Ebrill 2024.
Yn olaf, dyw’r rhan fwyaf o’r gwefannau hyn ddim yn darparu datganiad blynyddol sy'n dangos faint o enillion neu colledion a wnaed yn ystod y flwyddyn, sy'n ei gwneud hi'n anoddach i gyfrifo os oes unrhyw dreth yn ddyledus. Byddwch yn ymwybodol o hyn wrth baratoi eich gwybodaeth treth blynyddol.

