Cymraeg
Cymraeg

Sefydlwyd Cyfrifwyr Huw Aled Accountants ym mis Chwefror 2020 er mwyn rhoi cymorth i unigolion gyda'u cyfrifon a'u trethi. Rydym yn arbenigo mewn cyfrifon a threthi ar gyfer unigolion hunan gyflogedig, landlordiaid, uwch reolwyr ac ‘expats’. Mae'r iaith Gymraeg yn bwysig iawn i Huw ac Aled gan eu bod nhw’n dau yn Gymry Cymraeg iaith gyntaf.

Ar ddechrau'r Flwyddyn Newydd, bydd rhai unigolion yn meddwl bod eu materion ariannol mewn trefn, tra bydd eraill yn meddwl 'Mae gwir angen i mi roi trefn ar hyn'. Rydym wedi dod ar draws rhai unigolion a ddechreuodd y broses o ddrafftio eu hewyllysiau dros 5 mlynedd yn ôl, ac maent yn dal heb eu cwblhau a’u llofnodi!

 

  1. Os nad oes ganddoch ewyllys clir a chyfredol, bydd eich ystâd yn cael ei rannu yn unol â rheolau diffyg ewyllys ('intestacy') sydd, yn y bôn, yn dilyn y llinell gwaed ('bloodline'). Gall hyn arwain at bartneriaid di-briod yn derbyn dim, tra bod aelodau'r teulu yn elwa p'un a ydych am iddynt wneud hynny neu beidio. Bydd hyn yn gadael llanast i'ch teulu i'w ddatrys.

  2. Dyma enghraifft o beth all ddigwydd os nad yw'ch materion ariannol mewn trefn:

    Ar ôl ysgariad chwerw ac yna ail briodas hapus iawn, ni ddiweddarodd y gŵr ffurflen "expression of wishes" ei bensiwn. Bu farw’r gŵr yn sydyn a hawliodd y wraig a ysgarwyd gyntaf ei bensiwn, gan mai hi oedd wedi ei henwi ar y ffurflen.

  3. Os oes ganddoch chi asedau sylweddol, mae angen i chi gynllunio ac i o leiaf fod yn ymwybodol o'ch sefyllfa Treth Etifeddiaeth. Os byddwch yn cynllunio’n ddigon cynnar, gall hyn arwain at ostyngiadau sylweddol yn eich bil posibl o Dreth Etifeddiaeth.

  4. Y dogfennau pwysig eraill i’w trefnu, yn enwedig ar gyfer unigolion sydd dros oedran pensiwn, yw Atwrneiaeth ('Power of Attorney') Ariannol ac Iechyd sy’n caniatáu i’ch teulu / ffrindiau agos ofalu am faterion os byddwch yn mynd yn ddifrifol o sâl.

  5. Ydych chi wedi gwneud rhestr o’ch asedau ariannol ac a yw eich perthnasau/ffrindiau ry'ch chi'n ymddiried ynddynt fwyaf yn gwybod ble mae’r rhestr yn cael ei gadw? Mewn achos o farwolaeth gynnar / analluogrwydd bydd hyn o leiaf yn sicrhau bod eich holl asedau ar gael i'ch ystâd.

    Mae hyn yn arbennig o bwysig gyda'r cynnydd parhaus yn y defnydd o fancio ar-lein. Fel arall, efallai y bydd eich cynilion yn dod yn rhan o’r biliynau o bunnoedd o asedau sydd heb eu hawlio ac sy’n eistedd yn segur gyda’r sefydliadau ariannol mawr.

  6. Gwiriwch bod eich cyfrifon cynilo yn talu cyfradd llog derbyniol – does dim esgusodion dros gadael symiau mewn cyfrifon sy’n talu’n isel, o ystyried y cynnydd yng nghyfraddau llog yn ystod y 18 mis diwethaf.

  7. Gwiriwch eich cofnod Yswiriant Gwladol a’ch rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth ar wefan Gov.uk i gywiro unrhyw wallau nawr, cyn i chi ymddeol.

Gwylio'r Geiniog

Our Services

One of the most significant changes to personal income tax is taking place from April 2026 onwards and action is…
Huw and Aled are specialists in the field of taxation for individuals, in particular the preparation of self assessment tax…
Huw and Aled have significant experience in assisting individuals with understanding, quantifying and reporting their capital gains tax liabilities to…
Expat taxation services are offered to expats who are living abroad on a temporary or permanent basis. Our client base…
Slide 1a
Image is not available

"You have made what is a complicated situation very clear. Thank you very much for your contribution."
"Rydych chi wedi gwneud yr hyn sy'n sefyllfa gymhleth yn glir iawn. Diolch yn fawr iawn am eich cyfraniad."

Dewi Llwyd
Dros Ginio (BBC Radio Cymru)
Slide 1

“Thank you so much for sorting out my capital gains tax. I can finally put closure on the situation, which believe me is a huge weight off my shoulders.”

Slide 1

“Diolch yn fawr am eich cymorth. Rydych wedi bod yn help mawr ac wedi rhoi tawelwch meddwl i fi.”

“Thank you very much for your assistance. You have been a real help and given me peace of mind.”

Slide 1

From a client who's originally from Germany and has started working self-employed in the UK. We've been helping her to understand the UK tax system:

“Thank you very much for your patience, I really appreciate it. If only we could have lectures at university about things like this! That makes perfect sense, thank you very much.”

Slide 1

"Thanks once again for your help this year. I've had a bit of a nightmare with accountants in the last few years. I'm so glad to have found one who is so approachable and knowledgeable and a nice bloke to top it off."

Slide 1

“Diolch yn fawr iawn Aled am eich gwaith trylwyr. Mae'r cwmwl wedi codi!”

"Thank you very much Aled for your thorough work. The clouds have lifted!"

Slide 1

"I just received your newsletter today. As you know, I live out of the country and hence find it slightly difficult to keep up to date with the financial updates within the UK. Your newsletters are heaven-sent, for me. Please keep up the good work."

Slide 1

"Huw Aled Accountants have been a lifeline throughout the COVID-19 pandemic, notifying me of several grants and funds to which I could apply for my business, having been ineligible for government schemes. I am very grateful for their continued support and expertise."

Slide 1

"Your newsletter alerted me to a support fund made available to freelancers as a result of Covid-19. I have successfully received funding, which has made a significant difference to me at a time when work has dried up during lockdown. Thank you very much for all your support!"

Slide 1


"I want to express my sincere gratitude for your efficient service. It has truly been a breath of fresh air."

previous arrow
next arrow