Yn dilyn Datganiad yr Hydref gan y Canghellor, Jeremy Hunt, dyma'r prif materion i'w nodi:
1. Datblygiadau CADARNHAOL
- Ar gyfer gweithwyr, bydd cyfradd cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 yn cael eu lleihau o 12% i 10% o 6 Ionawr 2024. Bydd gweithiwr cyffredin ar gyflog o £35,400 yn derbyn toriad treth blynyddol o £450.
- Ar gyfer yr hunangyflogedig, mae yna ddau newid mawr i Yswiriant Gwladol (YG) o fis Ebrill 2024 ymlaen:
- YG Dosbarth 2 yn cael ei diddymu: yn flaenorol, roedd hyn yn daliad 'flat rate' oedd yn ddyledus gan pob unigolyn hunangyflogedig oedd yn ennill elw llawrydd o fwy na £12,570.
- YG Dosbarth 4 yn cael ei leihau o 9% i 8%: mae hyn yn daladwy ar elw hunangyflogedig rhwng £12,570 a £50,270.
Bydd y ddau newid hyn yn arwain at arbediad treth o tua £350 i unigolyn hunangyflogedig sy'n ennill elw o £28,200.
- Credyd Cynhwysol a budd-daliadau oedran gweithio eraill i gynyddu 6.7% o fis Ebrill 2024.
- Bydd Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu 8.5% o fis Ebrill 2024, sydd gwerth £900 ychwanegol y flwyddyn i’r rhai sydd ar bensiwn newydd y wladwriaeth.
- Bydd y Cyflog Byw Cenedlaethol yn codi o £10.42 i £11.44 o fis Ebrill 2024.
- Bydd cwmnïau sy'n buddsoddi mewn peiriannau ac offer yn gallu parhau i dynnu'r costau hyn yn llawn yn erbyn treth gorfforaeth.
2. Datblygiadau SIOMEDIG
- Disgwylir i safonau byw ostwng eto eleni ac ni ddisgwylir iddynt ddychwelyd i lefelau cyn-bandemig tan 2027-28.
- Dim newid i lwfans personol treth incwm a throthwyon treth cyfradd uwch a byddant ddim yn newid tan 2028. Wrth i gyflogau godi, bydd pawb yn talu mwy o dreth.
- Er bod cyfraddau YG wedi cael eu lleihau ar gyfer gweithwyr, nid oes unrhyw newid i’r cyfradd YG Dosbarth 1 sy’n daladwy gan gyflogwyr, sy’n parhau ar 13.8%.
- Cyllid ychwanegol ar gyfer tîm Rheoli Dyled y Swyddfa Dreth, sy'n adlewyrchu'r realiti y gall unigolion ei chael hi'n anodd i dalu eu biliau treth yn y blynyddoedd i ddod wrth i'r pwysau o'r argyfwng costau byw barhau.
Byddwn yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am newidiadau sylweddol i drethi a chyhoeddiadau ariannol y Llywodraeth!

