- Mae 6 Hydref bob blwyddyn yn ddyddiad pwysig i unigolion hunangyflogedig sy'n bwriadu i ail-forgeisi. Mae benthycwyr yn aml yn cyflwyno amod bod angen ffigyrau incwm a threth cyfredol arnynt, o gyfnod hyd at y 18 mis diwethaf, felly os ydych chi'n bwriadu i ail-forgeisi, bydd angen i chi baratoi eich ffurflen dreth ar gyfer 2022-2023 yn gynt na'r dyddiad cau o 31 Ionawr 2024 er mwyn sicrhau y cynigion morgeisi gorau. Ni allwch ddibynnu ar ffigyrau incwm a threth 2021-2022.
Os nad ydych wedi cyflwyno ffurflen dreth 2022-2023 hyd yn hyn ac ry'ch chi'n bwriadu i ail-forgeisi yn fuan, rydym yn awgrymu eich bod yn cyflwyno ffurflen dreth 2022-2023 cyn gynted â bod modd.
- Mae gwaith cynyddol timau archwilio y Swyddfa Dreth wedi dod i'r amlwg yn ddiweddar. Byddwch yn ymwybodol bod gan y Swyddfa Dreth ffyrdd i ddarganfod os oes gan unigolyn incwm trethadwy sydd heb ei ddatgan. Er enghraifft, mae unigolion wedi derbyn llythyron yn ddiweddar yn nodi bod y Swyddfa Dreth o'r farn eu bod yn derbyn incwm rhent o dai preswyl.
Os oes ganddoch chi unrhyw incwm sydd heb ei ddatgan, cysylltwch â chyfrifydd a'r Swyddfa Dreth mor gynted â phosib. Mae datgelu gwybodaeth yn wirfoddol yn helpu'ch achos ac yn debygol o leihau unrhyw gosbau.
- Rydym wedi nodi mewn rhifynnau blaenorol o 'Gwylio'r Geiniog' am gynlluniau'r Llywodraeth i osod isafwm gradd 'EPC' ar dai gosod o C yn hytrach na'r isafswm gradd presennol, sef E, o 2025 ymlaen. Mae'r Prif Weinidog bellach wedi cael gwared o'r cynlluniau yma. Cafodd y cyhoeddiad yma ei wneud ochr yn ochr â nifer o gyhoeddiadau eraill, gan gynnwys oedi ar y gwaharddiad ar werthu ceir petrol a diesel newydd o'r dyddiad gwreiddiol o 2030 tan 2035.
Cwestiynau Huw ac Aled: mae fy mam gweddw, oedrannus yn ystyried gwerthu ei thŷ, sydd wedi mynd yn rhy fawr iddi ymdopi, a symud i fflat ymddeol. Mae hi’n hoff iawn o nofelau Richard Osman ac yn edrych ymlaen at fyw mewn cymuned bydd yn llawn o bobl o’r un oedran. Pa faterion ariannol sydd angen eu hystyried?
Mae manteision bywyd i lawer o bobl hŷn o adleoli i fflat ymddeol, gan gynnwys peidio â gorfod cynnal tai mawr ac o gael mynediad i ardaloedd cymunedol a chyfleusterau eraill, yn dibynnu ar y safle ymddeol penodol.
Bydd “tâl gwasanaethu” misol rheolaidd yn daladwy er mwyn talu am y costau cymunedol a’r cyfleusterau a ddarperir, yn aml rhwng £500 - £800 y mis. Mewn ychydig flynyddoedd pan nad yw hi bellach yn gallu byw yn y fflat, mae’n bosibl iawn y bydd ei theulu’n gweld bydd rhaid gwerthu’r fflat ymddeol ar golled sylweddol, fel sydd wedi digwydd i llawer o deuluoedd yn y blynyddoedd diwethaf.
Dewis arall fyddai ystyried rhentu'r fflat ymddeol. Bydd y gost misol yn uwch ond nid oes risg o golled ariannol mawr ar ddiwedd y cyfnod o fyw yn y fflat.

