- Mae Banc Lloegr wedi codi cyfraddau llog eto i 5% i geisio ymateb i lefelau chwyddiant sy'n parhau i fod yn uchel. Mae marchnadoedd ariannol bellach yn disgwyl i gyfradd sylfaenol Banc Lloegr godi i 5.5-6.0% yn ddiweddarach eleni, sydd wedi arwain at nifer o ddarparwyr morgeisi i gynyddu eu cyfraddau llog.
Os ydych ar forgais tymor penodol sy'n dod i ben o fewn y chwe mis nesaf, dechreuwch gynllunio o flaen llaw ac efallai byddwch yn elwa o gysylltu gyda arbenigwr morgeisi er mwyn iddynt allu asesu eich opsiynau.
- Bu farw cadeirydd clwb pêl-droed West Ham, David Gold, yn ddiewyllys yn ddiweddar gan adael ystâd o £125,000,000. Heb unrhyw ewyllys, trosglwyddwyd ei ystâd gyfan yn syth i'w blant a'i wyrion. Gadawyd ei bartner hirdymor a'i ddyweddi o 15 mlynedd heb ddim o dan rheolau diffyg ewyllys ('intestacy').
Gall ei ddiffyg cynllunio arwain at swm treth etifeddiaeth enfawr yn daladwy gan ei deulu. Er mwyn osgoi hyn, y camau syml i'w cymryd yw i sicrhau bod ganddoch ewyllys dilys i sicrhau bod eich asedau’n cael eu dosbarthu yn unol â’ch dymuniadau ac i’r rhai sy’n ffodus i gael ystâd fawr, cynlluniwch yn gynnar i leihau eich rhwymedigaethau treth etifeddiaeth. Efallai y gallai ei ddyweddi wneud rhywfaint o hawliad yn erbyn yr ystâd os oedd Mr. Gold yn ei chynnal yn ariannol.
Cwestiynau Huw ac Aled: dwi wedi ymddeol ac mewn sefyllfa ffodus o gael pensiwn da ac asedau sylweddol. Dymunaf roi symiau misol i'm plant a'm hwyrion. Pa effaith y mae hyn yn ei gael ar fy ystâd yn y dyfodol, o ran treth etifeddiaeth?
Gall unigolyn roi cyfanswm o £3,000 o roddion bob blwyddyn dreth heb iddynt gael eu hychwanegu at werth eu hystâd (a elwir yn 'annual exemption'). Mae lwfans rhoddion bach blynyddol ar wahân o hyd at £250 y person hefyd ar gael, cyn belled nad ydych wedi defnyddio lwfans arall ar gyfer yr un person. Mae rhoddion mwy yn cael eu trin fel rhan o ystâd unigolyn os cânt eu gwneud o fewn 7 mlynedd o farwolaeth.
Fodd bynnag, mae eithriad gwerthfawr ar gyfer rhoddion rheolaidd o'ch incwm.
Er enghraifft, os yw'ch incwm pensiwn net blynyddol a chynilion yn £60,000 a’ch gwariant blynyddol arferol yn £42,000, gallwch wneud rhoddion o’ch incwm o £18,000 y flwyddyn, wedi’u rhannu’n rhoddion misol o £1,500. Bydd y rhoddion hyn wedi'u heithrio rhag treth etifeddiaeth yn y dyfodol. Cofiwch gadw cofnodion clir a manwl a datganiadau banc i ddangos y rhoddion a'ch incwm misol.

