- Yw trosiant eich busnes (incwm gros cyn costau) wedi cynyddu i dros £85,000 mewn unrhyw gyfnod o 12 mis? Os felly, mae'n debygol y bydd yn rhaid i chi gofrestru ar gyfer TAW (neu 'VAT'). Cofiwch mai’r cyfnod perthnasol i asesu eich trosiant yn erbyn y trothwy o £85,000 yw unrhyw gyfnod o 12 mis (nid y flwyddyn dreth, neu os ydych yn gwmni cyfyngedig, nid diwedd blwyddyn ariannol y cwmni).
Os ydych yn ansicr os byddwch yn cyrraedd y trothwy TAW, neu os ydych eisoes wedi mynd y tu hwnt i'r trothwy, cysylltwch â'ch cyfrifydd.
- Mae ffigyrau'r Swyddfa Dreth yn dangos bod eu hincwm o Dreth Etifeddiaeth wedi codi £1bn yn y flwyddyn diwethaf i £7.1bn. Mae cynllunio’n allweddol i leihau treth etifeddiaeth a’r cam cyntaf i’w gymryd yw i sicrhau bod gennych ewyllys cyfredol a dilys.
- Yng Nghymru, ers mis Ebrill eleni, mae'n rhaid i llety gwyliau (neu 'furnished holiday let') gael ei osod am o leiaf 182 diwrnod a bod ar gael i'w osod am o leiaf 252 diwrnod mewn cyfnod o 12 mis er mwyn bod yn gymwys ar gyfer ardrethi busnes ('business rates') yn lle'r dreth cyngor. Mae hyn yn gynnydd sylweddol o'r trothwy blaenorol o 70 diwrnod o osod a 140 diwrnod o fod ar gael i'w osod.
Gall hyn arwain at gynnydd sylweddol i gostau perchnogion llety gwyliau gan bod rhai cynghorau lleol yn pendroni codi premiwm treth cyngor o 200%-300% ar berchnogaeth ail gartrefi.
Cwestiynau Huw ac Aled: dwi ar fin symud dramor am rai blynyddoedd a dwi'n dymuno parhau i dalu i mewn i fy mhensiwn personol yn y DU. A fyddai'n parhau i gael rhyddhad treth ar fy nghyfraniadau pensiwn personol pan nad wyf yn breswylydd treth yn y DU?
Yn gyntaf, bydd angen i chi gysylltu â’ch darparwr pensiwn i wirio os yw ei polisi yn caniatáu i breswylwyr treth sydd ddim yn byw yn y DU barhau i dalu cyfraniadau i'w pensiynau personol (gall polisïau amrywio yn dibynnu ar y darparwr).
Yn ail, os yw’r darparwr yn caniatáu i chi barhau â’ch cyfraniadau pensiwn personol, yn ddibynnol ar rai amodau, efallai y gallwch barhau i wneud cyfraniadau pensiwn o hyd at £3,600 (gros) bob blwyddyn i’ch cynllun personol, am hyd at 5 mlynedd ar ôl i'ch statws treth newid i fod yn breswylydd treth tu allan i'r DU.

