Gwnaeth y Canghellor newydd, Kwasi Kwarteng, gyhoeddi nifer o fesurau yn ei ddatganiad economaidd ar 23 Medi 2022. Dyma grynodeb o'r prif gyhoeddiadau:
- Treth incwm ac Yswiriant Gwladol
- Cyfradd sylfaenol treth incwm yn cael ei ostwng o 20% i 19% o fis Ebrill 2023
- Cyfradd dreth o 45% wedi'i ddiddymu (gydag un cyfradd uwch o 40% yn weithredol o fis Ebrill 2023)
- Bydd y cynnydd o 1.25% yn nghyfraddau Yswiriant Gwladol ar gyfer gweithwyr, cyflogwyr a'r hunangyflogedig yn cael ei wrthdroi o 6 Tachwedd 2022
- Yn wreiddiol, o fis Ebrill 2023, roedd disgwyl i bensiynwyr oedd yn gweithio i dalu 'Ardoll Iechyd a Gofal Cymdeithasol' o 1.25% ar eu hincwm gwaith, ond mae'r treth yma wedi cael ei ddileu.
- Bydd yr 1.25% ychwanegol o dreth ar ddifidendau hefyd yn cael ei ddileu o fis Ebrill 2023.
O fis Ebrill 2023, ar gyfer unigolyn sy'n ennill £20,000 y flwyddyn, byddant yn talu tua £160 yn llai o dreth y flwyddyn, tra bydd unigolyn sy'n ennill £100,000 yn talu tua £1,500 yn llai o dreth.
- Cyhoeddiadau allweddol eraill
- Cyfradd treth gorfforaeth yn aros ar 19% (gan ddileu'r cynnydd a gynlluniwyd yn wreiddiol o 19% i 25% o fis Ebrill 2023)
- Llymhau rheolau Credyd Cynhwysol, gyda lleihad i fudd-daliadau os nad yw pobl yn cyflawni ymrwymiadau penodol i ddod o hyd i swydd
- Beth oedden ni'n gwybod yn barod?
- Busnesau i gael cymorth ar gyfer eu costau ynni, gyda phrisiau yn sefydlog am 6 mis o fis Hydref ar tua hanner y gost ddisgwyliedig.
- Mae Banc Lloegr wedi cynyddu'r cyfradd llog sylfaenol o 1.75% i 2.25% (a disgwylir cynnydd pellach yn y dyfodol agos)
- Parhau mae'r chwyddiant uchel, sydd ar hyn o bryd tua 10%, ac mae'r bunt yn parhau'n wan yn erbyn y ddoler a'r ewro (gyda gwanhau sylweddol yn dilyn cyhoeddiadau'r Canghellor).
Byddwn yn parhau i rannu'r wybodaeth ddiweddaraf gyda chi am gyhoeddiadau economaidd y Llywodraeth ac unrhyw newidiadau sylweddol i ganllawiau treth!

