I’r rhai sydd wedi creu ymddiriedolaethau ('trusts') fel rhan o’u cynllun treth etifeddiaeth, daw rheolau newydd i rym ar 1 Medi 2022 ar gyfer cofrestru ymddiriedolaethau. Yn y gorffennol, dim ond ymddiriedolaethau â bil treth i'w dalu oedd angen cofrestru gyda'r Swyddfa Dreth. Erbyn 1 Medi 2022, fan bellaf, bydd hi'n ofynnol i bob ymddiriedolaeth drethadwy ac anhrethadwy (yn amodol ar restr o eithriadau) gofrestru gyda'r Swyddfa Dreth.
Un enghraifft a allai ddal pobl allan yw ymddiriedolaeth sydd wedi'i chreu mewn ewyllys. O dan y rheolau newydd, nid oes angen i ymddiriedolaethau ewyllys gael eu cofrestru, cyn belled â bod yr asedau'n cael eu dosbarthu o fewn 2 flynedd o'r profedigaeth. Os nad yw'r dosbarthu wedi digwydd o fewn 2 flynedd, bydd rhaid cofrestru'r ymddiriedolaeth ewyllys gyda'r Swyddfa Dreth.
Os ydych yn ymddiriedolwr neu'n ansicr o'r gofynion cofrestru, cysylltwch â ni.
Mae'r Canghellor, Rishi Sunak, wedi cyhoeddi nifer o becynnau cymorth yn ddiweddar i helpu pobl gyda'i biliau ynni. Mae'r mesurau hyn yn cynnwys taliad o £400 i bob cartref sydd â chyflenwad trydan. Yn ogystal, bydd taliad ar wahân o £650 i’r rhai ar fudd-daliadau, £300 i bensiynwyr sy’n derbyn taliadau tanwydd gaeaf a £150 i’r rhai sy’n derbyn budd-daliadau anabledd.
Os nad ydych wedi gwneud eisoes, sicrhewch eich bod wedi hawlio'r lwfans gweithio o adref ar gyfer 2021-2022. Oherwydd y pandemig, os bu'n rhaid i unigolyn weithio o adref am o leiaf un diwrnod yn ystod 2021-2022, mae modd iddynt hawlio'r lwfans blynyddol llawn o £312.
I'r rhai sy'n cwblhau hunanasesiad, gellir hawlio'r lwfans drwy'r ffurflen dreth; fel arall bydd angen cwblhau ffurflen P87.
Cwestiynau Huw ac Aled: mae gennyf Atwrneiaeth ('Power of Attorney') a baratowyd ychydig o flynyddoedd yn ôl. Mae un o fy atwrneiod yn eithaf bregus ac ni all weithredu fel Atwrnai yn y dyfodol. Oes modd i mi ddileu'r unigolyn yma o'r Atwrneiaeth ac oes modd i mi benodi unigolyn newydd yn ei le?
Mae’n bosibl cael gwared ar Atwrnai trwy ysgrifennu at Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ('Office of the Public Guardian'). Dylid eu hysbysu hefyd os bydd Atwrnai yn symud cyfeiriad neu'n marw. Yn yr achosion hyn, byddwch yn cadw'r ddogfen Atwrneiaeth wreiddiol.
Os dymunwch benodi unigolyn newydd yn Atwrnai, bydd angen i chi gyflwyno cais o'r newydd.

