- Gwnaeth Banc Lloegr gyhoeddi cynnydd o 0.25% mewn cyfraddau llog ym mis Mai, gan gynyddu’r gyfradd sylfaenol i 1%. I'r rhai sydd â morgais o £100,000, bydd ad-daliadau misol yn codi £20.
Ar gyfer cynilwyr mae peth newyddion da a dylech nawr dderbyn dros 1% ar gyfrifon cynilo. Fodd bynnag, efallai bydd angen i chi edrych y tu hwnt i'r prif fanciau gan nad ydynt wedi cynyddu cyfraddau cynilo yn unol â’r cynnydd mewn cyfraddau llog.
Wrth edrych i'r dyfodol, mae Banc Lloegr yn rhagweld cyfraddau llog o 2.5% erbyn canol 2023. Bydd hyn yn cynyddu costau misol ar forgais o £100,000 tua £150. Os oes gennych chi forgais mawr a'ch bod ar gyfradd llog amrywiol, gwiriwch eich opsiynau nawr cyn bod cynnydd pellach yng nghyfraddau llog.
- Mae adroddiad diweddar wedi canfod byddai 25% o bobl 18-34 oed yn ymddiried mewn negeseuon sgam (mwy na dwbl cyfran y rhai dros 55 oed). Yn ogystal, dyw 25% o bobl ifanc 18-34 oed ddim yn gwirio negeseuon sgam am wallau gramadegol, sef un o brif ddangosyddion neges sgam. Byddwch yn ofalus wrth dderbyn e-byst / negeseuon testun / galwadau wrth unigolion neu sefydliadau nad ydych yn eu hadnabod ac os ydych yn ansicr, peidiwch ag ymateb!
Cwestiynau Huw ac Aled: dwi wedi darllen ar-lein bod llawer o enwogion wedi lleihau eu treth etifeddiaeth trwy ddefnyddio amryw o gynlluniau. Allwch chi ddweud ychydig wrthyf am y gwahanol opsiynau sydd ar gael? (Rydym yn barod wedi trafod buddsoddiadau treth-effeithiol, Gweithred Amrywio, bwlch treth 'Ronnie Corbett' a threfniadau ewyllys Bruce Forsyth.)
Yn yr erthygl olaf byddwn yn trafod yr un opsiwn y gallwn i gyd ei ddefnyddio sef ysgrifennu ewyllys treth-effeithlon.
Mae llawer o enwogion wedi marw’n ddiewyllys, gan gynnwys y cantorion Prince ac Aretha Franklin a’r actor Rik Mayall, gan achosi problemau mawr i’w hystadau a’u buddiolwyr. Mae llawer o fanteision o gael ewyllys:
- Bydd yn gwneud pethau'n haws i'ch teulu pan fyddant yn prosesu eich ystâd.
- Gydag ewyllys ddilys gallwch sicrhau bod yr ystâd yn mynd lle'r ydych am iddi fynd, yn hytrach na dibynnu ar gyfreithiau diffyg ewyllys ('intestacy') sy'n anhyblyg iawn.
- Trwy gynllunio ymlaen llaw, gallwch wneud cynlluniau i leihau / gwario / gwneud rhodd o’ch ystâd os ydych yn gwybod y gall Treth Etifeddiaeth fod yn daladwy ar eich ystâd.
- Gallwch roi arian o'ch ystâd i elusen. Mae'r rhoddion hyn yn derbyn rhyddhad treth etifeddiaeth llawn o 40%. Mae rhodd o £10,000 yn lleihau bil treth etifeddiaeth £4,000.

