Amlygodd adroddiad seneddol diweddar unwaith eto weinyddiaeth gwael o bensiynau'r wlad. Ewch i wefan y Llywodraeth er mwyn gwirio eich cofnod o daliadau Yswiriant Gwladol. Os oes bylchau yn eich cofnod, cysylltwch â'r Swyddfa Yswiriant Gwladol ac efallai y gallwch sicrhau pensiwn uwch. Os ydych eisoes wedi dechrau eich pensiwn, efallai bod modd i chi hawlio taliad pensiwn ôl-ddyddiedig.
Llinell gymorth Gymraeg - 0800 731 0453
Llinell gymorth Saesneg - 0800 731 0175
Crynodeb o sgamiau amrywiol rydym wedi'u derbyn y mis hwn:
- Unigolion yn talu arian ymlaen llaw i brynu car newydd fel Tesla i “werthwr moduron” ac yn colli eu harian.
- Llythyron a dderbyniwyd oddi wrth “Banc Tsieineaidd” yn nodi bod yr unigolyn wedi cael ei olrhain fel yr unig perthynas i rywun oedd gyda enw tebyg a fu farw dramor mewn damwain, yn gofyn am eich manylion ariannol a “ffi weinyddol”.
- Negeseuon testun gan gwmnïau dosbarthu / heddlu ffug / ceisiadau banc ffug yn gofyn i chi drosglwyddo arian allan o'ch cyfrif banc.
- Byddwch yn wyliadwrus iawn o fuddsoddiadau sy'n cynnig enillion o, gwedwch, 8%-12% – mae'r cwmnïau hyn yn aml yn cael eu diddymu a gallech golli rhywfaint (neu'r cyfan oll) o'r arian a fuddsoddwyd. Fel y dywed y dywediad Saesneg, “os yw'n edrych yn rhy dda i fod yn wir, mae'n debyg ei fod”.
Cwestiynau Huw ac Aled: dwi wedi darllen ar-lein bod llawer o enwogion wedi lleihau eu treth etifeddiaeth trwy ddefnyddio amryw o gynlluniau. Allwch chi ddweud ychydig wrthyf am y gwahanol opsiynau sydd ar gael? (Y mis diwethaf buom yn trafod Gweithred Amrywio, neu 'Deed of Variation')
Y mis hwn rydym yn nodi rhai buddsoddiadau a all leihau eich treth etifeddiaeth os bodlonir nifer o amodau:
- Bydd arian a fuddsoddwyd mewn portffolio o “gyfranddaliadau AIM” yn cael ei eithrio rhag treth etifeddiaeth os yw’r cyfranddaliadau’n cael eu cadw am o leiaf 2 flynedd. (Dyma'r cynllun a ddefnyddiwyd gan y buddsoddwr a'r dyn busnes, Jim Slater). Mae risg ynghlwm â'r cynllun yma achos gall prisiau cyfranddaliadau godi a gostwng.
- Os cedwir symiau o fewn cynllun pensiwn, bydd y gronfa yma wedi'i heithrio rhag treth etifeddiaeth ac os yw unigolyn yn marw cyn 75 oed, ni bydd y buddiolwyr ('beneficiaries') yn talu treth incwm ar ôl etifeddu'r gronfa chwaith.
- Mae rhyddhad eiddo busnes a rhyddhad amaethyddol ar gael i rai unigolion, yn dibynnu ar eu hamgylchiadau.

