Rhai materion ariannol i'w hystyried ar ddechrau'r Flwyddyn Newydd:
- A oes gennych ewyllys clir, cyfredol? Gall Huw ddrafftio eich ewyllys a gwirio eich sefyllfa treth etifeddiaeth. Bydd Huw wedyn yn gweithio gyda chyfreithiwr dwyieithog lleol a fydd yn cwblhau'r gwaith trwy Zoom heb fod angen i chi ymweld â swyddfa unrhyw gyfreithiwr.
- Os oes angen trefnu Atwrneiaeth ('Power of Attorney') arnoch chi'ch hun neu i berthynas oedrannus, cysylltwch â Huw.
- Ystyriwch gosod eich morgais am dymor penodol gan fod nifer yn rhagweld cynnydd mewn cyfraddau llog eleni.
- Mae rheolau yswiriant newydd yn golygu na ddylai prisiau adnewyddu fod yn uwch na phrisiau ar gyfer cwsmeriaid newydd. Gwiriwch bod eich dyfynbris adnewyddu yn rhesymol trwy ddefnyddio gwefannau cymharu prisiau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio nifer o grantiau trwy'r Cronfa Cadernid Economaidd. Mae cymorth ar gael i fusnesau sy'n talu ardrethi busnes (symiau amrywiol ar gael), i weithwyr llawrydd (£500 ar gael) ac i fusnesau sy'n cyflogi pobl ond nad ydynt yn talu ardrethi busnes (£2,000 ar gael). Ceir y manylion yn llawn yma:
Yn ddiweddar, derbyniodd unigolyn, sydd ddim yn llenwi ffurflenni treth, 3 asesiad treth gan y Swyddfa Dreth, yn dangos symiau sylweddol o dreth heb eu talu o rai blynyddoedd yn ôl. Mae dyletswydd ar y Swyddfa Dreth i gyhoeddi asesiadau o fewn cyfnod o amser rhesymol. Os yw'r Swyddfa Dreth yn araf yn prosesu gwybodaeth, mae’n bosibl cyflwyno apêl o dan 'Consesiwn Statudol Ychwanegol A19'. Os ydych chi neu berthynas oedrannus yn derbyn galwadau annisgwyl wrth y Swyddfa Dreth, cysylltwch â ni i drefnu apêl.
Cwestiynau Huw ac Aled: dwi wedi darllen ar-lein bod llawer o enwogion wedi lleihau eu treth etifeddiaeth trwy ddefnyddio amryw o gynlluniau. Allwch chi ddweud ychydig wrthyf am y gwahanol opsiynau sydd ar gael?
Yn ein cyfres newydd ar strategaethau cynllunio treth etifeddiaeth a fabwysiadwyd gan ffigyrau enwog, rydym yn dechrau gyda'r cyn wleidydd Llafur, Tony Benn. Gwnaeth ei deulu arwyddo 'Gweithred Amrywio' (neu 'Deed of Variation') i newid telerau ei ewyllys ar ôl iddo farw. Gall y broses hon fod yn ddefnyddiol os yw'r unigolyn gwreiddiol sydd am etifeddu'r ystâd yn penderfynu trosglwyddo canran o'u hetifeddiaeth i'r genhedlaeth nesaf neu i roi eu hetifeddiaeth i elusen. Mae ystâd yr unigolyn hwn wedyn yn is, gan leihau treth etifeddiaeth yn y dyfodol.

