Cymraeg
Cymraeg

Sefydlwyd Cyfrifwyr Huw Aled Accountants ym mis Chwefror 2020 er mwyn rhoi cymorth i unigolion gyda'u cyfrifon a'u trethi. Rydym yn arbenigo mewn cyfrifon a threthi ar gyfer unigolion hunan gyflogedig, landlordiaid, uwch reolwyr ac ‘expats’. Mae'r iaith Gymraeg yn bwysig iawn i Huw ac Aled gan eu bod nhw’n dau yn Gymry Cymraeg iaith gyntaf.

Yn dilyn cyhoeddiad y Llywodraeth am gyfraddau newydd Yswiriant Gwladol (YG), dyma grynodeb o'r newidiadau a'u heffaith ar unigolion.

  1. O Ebrill 2022, bydd cyfraniadau YG yn cynyddu 1.25% ar gyfer gweithwyr, cyflogwyr a'r hunangyflogedig.

    Mae'r £9,568 cyntaf o enillion wedi'u heithrio rhag Yswiriant Gwladol.

    Bydd unigolyn sy'n ennill £25,000 y flwyddyn yn talu £192 ychwanegol o YG, tra bydd unigolyn sy'n ennill £70,000 y flwyddyn yn talu £755 yn ychwanegol o YG.

  2. O Ebrill 2023, bydd yn rhaid i bensiynwyr sy'n gweithio dalu 'Ardoll Iechyd a Gofal Cymdeithasol' o 1.25% ar eu henillion (ond nid ar eu hincwm pensiwn).

    I'r rhai sy'n 66 oed neu'n hŷn, dim ond 1.25% byddwch chi'n ei dalu ac ni fydd yn ofynnol i chi dalu unrhyw Yswiriant Gwladol pellach.

  3. O Ebrill 2022, bydd unigolion sy'n derbyn difidendau o dros £2,000 y flwyddyn yn talu 1.25% ychwanegol o dreth. Mae hyn yn effeithio ar gyfarwyddwyr cwmnïau sy'n talu eu hunain yn bennaf trwy ddifidendau.
     
    Os ydych chi'n derbyn difidendau o £50,000 y flwyddyn byddwch chi'n talu treth ychwanegol o £600.

    Mae hyn hefyd yn effeithio ar unigolion sydd â phortffolios cyfranddaliadau mawr.

 

Cwestiynau Huw ac Aled: mae fy mam oedrannus yn dangos arwyddion o ddementia. Mae hi'n ystyried ceisio am Atwrneiaeth ('Power of Attorney') ond mae'n poeni y gallai fod yn rhy hwyr.

Mae dau fath o Atwrneiaeth, sef Ariannol ac Iechyd. Mae'r rhain yn caniatáu i aelodau teulu dibynadwy / ffrindiau agos / gweithwyr proffesiynol i ofalu am faterion unigolyn sydd yn colli eu gallu meddyliol. Er mwyn gwneud cais am Atwrneiaeth, mae'n rhaid fod gan yr unigolyn allu meddyliol i lofnodi'r ffurflen.

Os bydd hi'n gohirio i gwblhau'r cais ac yn colli ei gallu meddyliol, yr unig ddewis arall yw gwneud cais i'r Llys Gwarchod am Orchymyn Dirprwyaeth ('Deputyship Order') i ofalu am ei hasedau ariannol a'i lles. Mae hyn yn llawer mwy costus a llafurus. Wrth symud ymlaen, byddai angen paratoi cyfrifon blynyddol yn manylu ar incwm a gwariant eich mam.

Y cyngor cyffredinol yw gwneud cais am Atwrneiaeth yn gynnar pan fydd gan rywun gallu meddyliol llawn. Cysylltwch â ni os ydych am drafod unrhyw faterion sy'n ymwneud ag Atwrneiaeth.

Gwylio'r Geiniog

Our Services

One of the most significant changes to personal income tax is taking place from April 2026 onwards and action is…
Huw and Aled are specialists in the field of taxation for individuals, in particular the preparation of self assessment tax…
Huw and Aled have significant experience in assisting individuals with understanding, quantifying and reporting their capital gains tax liabilities to…
Expat taxation services are offered to expats who are living abroad on a temporary or permanent basis. Our client base…
Slide 1a
Image is not available

"You have made what is a complicated situation very clear. Thank you very much for your contribution."
"Rydych chi wedi gwneud yr hyn sy'n sefyllfa gymhleth yn glir iawn. Diolch yn fawr iawn am eich cyfraniad."

Dewi Llwyd
Dros Ginio (BBC Radio Cymru)
Slide 1

“Thank you so much for sorting out my capital gains tax. I can finally put closure on the situation, which believe me is a huge weight off my shoulders.”

Slide 1

“Diolch yn fawr am eich cymorth. Rydych wedi bod yn help mawr ac wedi rhoi tawelwch meddwl i fi.”

“Thank you very much for your assistance. You have been a real help and given me peace of mind.”

Slide 1

From a client who's originally from Germany and has started working self-employed in the UK. We've been helping her to understand the UK tax system:

“Thank you very much for your patience, I really appreciate it. If only we could have lectures at university about things like this! That makes perfect sense, thank you very much.”

Slide 1

"Thanks once again for your help this year. I've had a bit of a nightmare with accountants in the last few years. I'm so glad to have found one who is so approachable and knowledgeable and a nice bloke to top it off."

Slide 1

“Diolch yn fawr iawn Aled am eich gwaith trylwyr. Mae'r cwmwl wedi codi!”

"Thank you very much Aled for your thorough work. The clouds have lifted!"

Slide 1

"I just received your newsletter today. As you know, I live out of the country and hence find it slightly difficult to keep up to date with the financial updates within the UK. Your newsletters are heaven-sent, for me. Please keep up the good work."

Slide 1

"Huw Aled Accountants have been a lifeline throughout the COVID-19 pandemic, notifying me of several grants and funds to which I could apply for my business, having been ineligible for government schemes. I am very grateful for their continued support and expertise."

Slide 1

"Your newsletter alerted me to a support fund made available to freelancers as a result of Covid-19. I have successfully received funding, which has made a significant difference to me at a time when work has dried up during lockdown. Thank you very much for all your support!"

Slide 1


"I want to express my sincere gratitude for your efficient service. It has truly been a breath of fresh air."

previous arrow
next arrow