Cymraeg
Cymraeg

Sefydlwyd Cyfrifwyr Huw Aled Accountants ym mis Chwefror 2020 er mwyn rhoi cymorth i unigolion gyda'u cyfrifon a'u trethi. Rydym yn arbenigo mewn cyfrifon a threthi ar gyfer unigolion hunan gyflogedig, landlordiaid, uwch reolwyr ac ‘expats’. Mae'r iaith Gymraeg yn bwysig iawn i Huw ac Aled gan eu bod nhw’n dau yn Gymry Cymraeg iaith gyntaf.

  1. Tan eleni, roedd dim ond modd defnyddio colledion hunan gyflogedig yn erbyn incwm arall yn yr un flwyddyn dreth â'r colledion neu'r flwyddyn dreth flaenorol. Yn sgîl y pandemig, mae'n bosib bellach i gario colledion hunan gyflogedig o flynyddoedd treth 2020-2021 a 2021-2022 a'u defnyddio yn erbyn elw o'r 3 blynedd dreth ddiwethaf. Mae hyn yn newyddion calonogol i'r rheini sydd wedi gwneud colled ers y pandemig.

 

  1. Cyhoeddodd Banc Tesco yn ddiweddar y byddant yn cau pob cyfrif cyfredol erbyn 30 Tachwedd 2021. Sicrhewch eich bod yn ymchwilio i ba fanc sydd â'r cynigion gorau ar eu cyfrifon cyfredol pan fyddwch chi'n newid banc ac eich bod yn gwirio ei fod yn fanc sefydledig a rheoledig.

 

  1. Os ydych yn prynu tŷ a adeiladwyd yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, gwiriwch yn ofalus iawn os yw'r tŷ ar brydles ('leasehold') ac os felly, archwiliwch y taliadau gwasanaeth blynyddol / rhent daear parhaus oherwydd gall rhain fod yn ddrud iawn.

    Mae adroddiadau papur newydd diweddar yn nodi bod rhai prynwyr wedi dwyn achos cyfreithiol yn erbyn eu cyfreithwyr (a argymhellir yn aml gan yr adeiladwyr tai) am beidio ag egluro'r taliadau dan sylw yn llawn pan yn prynu'r tŷ.

 

Cwestiynau Huw ac Aled: fel ysgutor ystâd fy ewythr, rwyf ar fin talu bil treth etifeddiaeth ar ystâd sy'n cynnwys portffolio arian digidol ('cryptocurrency'). Mae gwerth y portffolio wedi gostwng yn sylweddol ers iddo farw. A gaf i hawlio i ostwng y bil treth o ganlyniad i'r gostyngiad yng ngwerth y portffolio?

Pan gwblhawyd y ffurflenni treth etifeddiaeth, byddai prisiad swyddogol wedi ei gael o'r portffolio arian digidol a byddai'r bil treth yn seiliedig ar y prisiad hwn.

Mae rhyddhad treth etifeddiaeth ar gael i ysgutorion lle mae asedau wedi cwympo mewn gwerth rhwng dyddiad y farwolaeth a phan werthir yr ased. Mae'r rhyddhad hwn yn berthnasol i werthu tir a chyfranddaliadau a ddyfynnir (yn ddibynnol ar amodau penodol). O dan y ddeddfwriaeth gyfredol, nid yw'r rhyddhad yn berthnasol i arian digidol.

Mewn amgylchiadau prin, gallai hyn arwain at fil treth etifeddiaeth sy'n uwch na gwerth y portffolio arian digidol.

Os ydych chi'n poeni am effaith treth etifeddiaeth ar bortffolio arian digidol, cysylltwch â ni.

Gwylio'r Geiniog

Our Services

One of the most significant changes to personal income tax is taking place from April 2026 onwards and action is…
Huw and Aled are specialists in the field of taxation for individuals, in particular the preparation of self assessment tax…
Huw and Aled have significant experience in assisting individuals with understanding, quantifying and reporting their capital gains tax liabilities to…
Expat taxation services are offered to expats who are living abroad on a temporary or permanent basis. Our client base…
Slide 1a
Image is not available

"You have made what is a complicated situation very clear. Thank you very much for your contribution."
"Rydych chi wedi gwneud yr hyn sy'n sefyllfa gymhleth yn glir iawn. Diolch yn fawr iawn am eich cyfraniad."

Dewi Llwyd
Dros Ginio (BBC Radio Cymru)
Slide 1

“Thank you so much for sorting out my capital gains tax. I can finally put closure on the situation, which believe me is a huge weight off my shoulders.”

Slide 1

“Diolch yn fawr am eich cymorth. Rydych wedi bod yn help mawr ac wedi rhoi tawelwch meddwl i fi.”

“Thank you very much for your assistance. You have been a real help and given me peace of mind.”

Slide 1

From a client who's originally from Germany and has started working self-employed in the UK. We've been helping her to understand the UK tax system:

“Thank you very much for your patience, I really appreciate it. If only we could have lectures at university about things like this! That makes perfect sense, thank you very much.”

Slide 1

"Thanks once again for your help this year. I've had a bit of a nightmare with accountants in the last few years. I'm so glad to have found one who is so approachable and knowledgeable and a nice bloke to top it off."

Slide 1

“Diolch yn fawr iawn Aled am eich gwaith trylwyr. Mae'r cwmwl wedi codi!”

"Thank you very much Aled for your thorough work. The clouds have lifted!"

Slide 1

"I just received your newsletter today. As you know, I live out of the country and hence find it slightly difficult to keep up to date with the financial updates within the UK. Your newsletters are heaven-sent, for me. Please keep up the good work."

Slide 1

"Huw Aled Accountants have been a lifeline throughout the COVID-19 pandemic, notifying me of several grants and funds to which I could apply for my business, having been ineligible for government schemes. I am very grateful for their continued support and expertise."

Slide 1

"Your newsletter alerted me to a support fund made available to freelancers as a result of Covid-19. I have successfully received funding, which has made a significant difference to me at a time when work has dried up during lockdown. Thank you very much for all your support!"

Slide 1


"I want to express my sincere gratitude for your efficient service. It has truly been a breath of fresh air."

previous arrow
next arrow