Cyhoeddodd y Canghellor, Rishi Sunak, ei Gyllideb ar y 3ydd o Fawrth 2021. Dyma rhai o'r prif gyhoeddiadau ar gyfer unigolion:
- Does dim newid i gyfraddau treth incwm, Yswiriant Gwladol na TAW. Yn ogystal, mae lwfansau personol ar gyfer treth incwm, treth etifeddiaeth a threth ar eiddo wedi cael eu rhewi tan 2026.
- Mae rhai o brif benthycwyr y wlad wedi lawnsio morgeisi o 95% i gefnogi'r rheini sy'n prynu tŷ am y tro cyntaf.
- Bydd uchafswm talu digyswllt ('contactless payment') yn codi i £100 yn hwyrach eleni.
- Mae'r cynllun ffyrlo wedi cael ei ymestyn tan ddiwedd Medi gyda cymorth o 80% o gyflogau ar gael. Bydd angen i gyflogwyr wneud cyfraniad tuag at y cynllun ym misoedd Gorffennaf, Awst a Medi 2021.
- Estynnwyd y cynnydd wythnosol o £20 i gynllun Credyd Cynhwysol am 6 mis ychwanegol.
- Bydd y pedwerydd grant i'r hunan gyflogedig yn agored i'r newydd hunan gyflogedig sydd wedi cwblhau ffurflen dreth ar gyfer 2019-2020. Disgwylir i'r grant agor tuag at ddiwedd mis Ebrill a bydd cymorth o 80% o gyfartaledd elw ar gael. Bydd pumed grant i'r hunan gyflogedig ar gael yn hwyrach eleni hefyd.
Ar wahân i gyhoeddiad y Gyllideb, mae Llywodraeth Cymru wedi ychwanegu £30m i'r Gronfa Cadernid Economaidd ar gyfer busnesau lletygarwch, hamdden a thwristiaeth. Cadwch lygad ar wefan Busnes Cymru am fanylion o unrhyw grantiau pellach:
https://businesswales.gov.wales/cy
Cwestiynau Huw ac Aled: dwi wedi clywed bod modd trosglwyddo peth o fy lwfans personol i fy mhartner i leihau ein treth incwm. Yw hyn yn gywir?
Mewn cwpl priod neu bartneriaeth sifil, os yw un ohonoch yn ennill llai na £12,500 a’r llall yn drethdalwr cyfradd sylfaenol, gellir trosglwyddo £1,250 o lwfans personol un partner i’r llall, gan arbed £250 o dreth. Dyw'r arbediad ddim mor hael ar gyfer trethdalwyr cyfradd uwch. Cysylltwch â ni os ydych yn meddwl gallech chi fanteisio ar y lwfans yma.

