Mae blwyddyn wedi hedfan ers lawnsiad Huw Aled Accountants. Diolch yn fawr i chi am eich cefnogaeth.
- Rydym wedi darparu cyngor treth i'n cleientiaid ar nifer o faterion, ond yn ddiweddar, cawsom gyfnod o 48 awr o drafodion anarferol yn ein cyrraedd ni, gan gynnwys:
- Cynghori meddyg ar daliadau treth sy'n codi ar ôl mynd dros lwfansau pensiynau blynyddol a lwfansau oes
- Asesu treth etifeddiaeth oedd yn ddyledus ar rhodd tu fewn i ymddiriedolaeth teuluol
- Cyfrifo treth ar eiddo o werthiant portffolio cymhleth o gyfranddaliadau
- Cysylltu â chyfreithiwr o'r Eidal ynghylch tŷ rhent dinesydd Prydeinig ymadawedig yn Rhufain
- Gwerthuso a oedd ceir newydd oedd wedi cael eu defnyddio fel ceir arddangos yn dal i fod yn gymwys i gael lwfansau cyfalaf llawn
- Trefnu gwerthu tŷ pâr priod yng Nghaerdydd wedi iddynt farw, lle mae buddiolwyr yr ystâd yn byw tramor
- Hawlio rhyddhad treth etifeddiaeth ar ystâd pâr lle roeddynt yn gadael y cartref teuluol i'w plant, gan alluogi'r ystâd i dderbyn hyd at £1,000,000 heb unrhyw dreth etifeddiaeth
- Ar Ddydd Iau 4 Mawrth, byddwn yn cynnal dau gyflwyniad ar-lein i ddadansoddi Cyllideb y Canghellor (9am: cyflwyniad Saesneg; 11am: cyflwyniad Cymraeg). Bydd manylion llawn y cyflwyniad ar gael ar ein gwefan maes o law.
Cwestiynau Huw ac Aled: a oes yna unrhyw gamau y gallaf eu cymryd cyn y Gyllideb a allai o bosib arbed treth?
Mae tri maes o newid posibl cyn Cyllideb y Canghellor ar 3 Mawrth:
- Cyfraddau treth ar eiddo: gall rhain godi i 20% a 40%, gan eu halinio â chyfraddau treth incwm. Os ydych chi'n ystyried gwerthu ased, efallai yr hoffech chi gwblhau hyn cyn y Gyllideb.
- Rhyddhad treth ar gyfraniadau pensiwn: os ydych chi'n ystyried gwneud cyfraniad pensiwn mawr cyn diwedd y flwyddyn dreth, efallai yr hoffech chi wneud hyn cyn y Gyllideb.
- Lwfansau rhoddion di-dreth: gwnewch roddion hyd at eich lwfans treth etifeddiaeth o £3,000 ar gyfer y flwyddyn dreth hon a £3,000 ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol, os nad ydych wedi ei ddefnyddio eisioes. Gall hyn arwain at gyfanswm o £6,000 i unigolyn a £12,000 i bâr priod.
Cysylltwch â ni os ydych am drafod unrhyw faterion.

