- Rhai materion ariannol i'w hystyried ar ddechrau'r Flwyddyn Newydd:
- Defnyddiwch wefannau cymharu ar gyfer costau megis yswiriant cartref. Gall dyfynbrys ar gyfer y rhai sy'n adnewyddu gyda'r un darparwr bob blwyddyn fod yn chwerthinllyd o uchel.
- Gyda chyfradd llog sylfaenol Banc Lloegr dal ar 0.1%, ymchwiliwch os oes modd i chi gael cyfradd llog gwell ar eich morgais.
- Nid oes gan dros hanner o oedolion ewyllys ddilys. Ydych chi'n un ohonyn nhw?
- Ym mis Rhagfyr 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru newid i reolau Treth Trafodiad Tir (Land Transaction Tax) lle mae'r canran ychwanegol sy'n daladwy ar ail gartrefi bellach yn dechrau ar 4% ar gyfer cartrefi gwerth hyd at £180,000 ac yn codi ar raddfa ar gyfer tai drytach.
- Yn dilyn y twf diweddar ym mhris Bitcoin, mae nifer o gwmnïau sgam wedi'u sefydlu i geisio denu unigolion i fuddsoddi yn Bitcoin trwy eu gwefannau. Byddwch yn ofalus iawn wrth fuddsoddi a sicrhewch bod y cwmni yn gyfreithlon. Mae'n hawdd iawn prynu Bitcoin ond gall fod yn anodd iawn ei werthu. Nid oes iawndal a gallwch golli 100% o'ch arian.
Cwestiynau Huw ac Aled: fel unigolyn hunangyflogedig, rwyf wedi derbyn grantiau yn ystod y pandemig er mwyn cefnogi fy musnes. A yw'r grantiau yma yn drethadwy?
Mae nifer sylweddol o grantiau wedi bod ar gael wrth wahanol sefydliadau yn ystod y pandemig.
Mae mwyafrif helaeth o grantiau, gan gynnwys cynlluniau cymorth y Llywodraeth fel y Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth, yn drethadwy ac mae angen eu cynnwys yn eich ffurflen dreth. Fodd bynnag, os ydych wedi cwympo ar amseroedd caled ac wedi cael cyllid o gronfeydd cymorth (hardship funds) a gynigir gan sefydliadau anllywodraethol, efallai na fydd y rhain yn drethadwy.
Er mwyn gwirio os yw cyllid grant yn drethadwy neu beidio, rhaid adolygu telerau ac amodau contract y grant yn fanwl. Cysylltwch â'ch cyfrifydd.

